Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n cynnull uwchgynhadledd o gynrychiolwyr allweddol ddydd Iau 18 Ebrill i archwilio effeithiau’r sefyllfa bresennol estynedig o ran tywydd gwlyb, ac i drin a thrafod pa ymyriadau a allai fod yn angenrheidiol o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi i ddelio â'r amgylchiadau eithriadol y mae rhai ffermwyr yn eu hwynebu.

Mae’n amlwg bod newidiadau yn yr hinsawdd a thywydd sy'n gynyddol eithafol eisoes yn effeithio ar briddoedd, adnoddau dŵr a da byw Cymru, oherwydd glaw a llifogydd dwys ac estynedig yn ogystal â chyfnodau o sychder a thanau gwyllt yn yr haf. 

Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol ac mae'n rhaid i ni weithredu heddiw i addasu a lliniaru hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau nawr i adeiladu gwytnwch i effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd. 

Rwy'n cydnabod yn llwyr yr effaith y mae’r cyfnod hir o dywydd gwlyb yn ei chael ar ein ffermwyr, ac rwyf wedi gweld yr effeithiau hynny drosof fy hun yn ystod ymweliadau fferm yr wythnos ddiwethaf. Mae’r tywydd wedi achosi cynnydd mewn costau ac oedi cyn gallu gweithio ar y tir, a bydd hynny’n cael effeithiau tymor byr, canolig a thymor hir ar bob sector. 

Mae iechyd meddwl a lles y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth yn destun pryder mawr i mi. Rwy'n annog unrhyw un sy'n dioddef o straen neu broblemau iechyd meddwl eraill i ofyn am help. Yn hyn o beth, mae gwaith yr elusennau ffermio yn bwysicach nawr nag erioed. Gallwn weithio gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael, fel y gall pobl gael gafael ar y cymorth hwnnw sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sy’n darparu’r cymorth hanfodol hwn ledled Cymru. 

Ar hyn o bryd rydym yn monitro'r effaith y gallai'r tywydd gwlyb ei chael ar ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru, gan gynnwys trwy Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddol y DU. 

Byddaf yn diweddaru'r Aelodau yn dilyn yr Uwchgynhadledd.