Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod ni heddiw yn cyhoeddi'r ddogfen: Ein Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau tuag at Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn. 

Mae hyn yn garreg filltir bwysig yn y rhaglen diwygio bysiau. 

Mae'n datblygu ar y cynigion yn ein papur gwyn i nodi sut y mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu ymdrin â masnachfreinio, gan gynnwys sut rydym yn bwriadu gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gynllunio a darparu gwasanaethau bws. 

Mae masnachfreinio yn golygu bod y penderfyniadau ynghylch gwasanaethau bws yng Nghymru (gan gynnwys llwybrau, amserlenni, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth) yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Gymru a Thrafnidiaeth Cymru yn hytrach na gweithredwyr bysiau masnachol. Fodd bynnag, rydym am wneud penderfyniadau mewn partneriaeth â Chyd-bwyllgorau Corfforedig. Gall gweithredwyr bysiau wneud ceisiadau am gontractau i redeg gwasanaethau bysiau i'r manylebau hyn. Bydd hyn yn newid mawr i system fysiau Cymru, sydd wedi ei dadreoleiddio ers yr 1980au.

Bydd y map ffordd yn rhoi darlun i’r diwydiant, i awdurdodau lleol ac i’r cyhoedd o’r hyn y bydd masnachfreinio yn ei olygu yn ymarferol. Fodd bynnag, dim ond dechrau’r sgwrs ynghylch sut y gallwn sicrhau bod masnachfreinio yn darparu ar gyfer pobl Cymru yw hyn. 

Mae’n nodi ein dull gweithredu presennol o ran materion allweddol a fydd yn penderfynu sut mae masnachfreinio yn cael ei ddarparu. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ystyried lle y gallai gwell cynllunio wella rhwydweithiau bysiau. Mae hyn wedi arwain at naw o egwyddorion craidd o ran cynllunio rhwydweithiau, sydd wedi eu cynllunio i osgoi dyblygu, a gwneud y mwyaf o rwydwaith ledled ardal benodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar nifer y teithwyr sy’n teithio ar lwybr unigol.

Rydym yn cynnig mabwysiadu contract enghreifftiol costau gros, gyda chymhelliad ar gael i weithredwyr, a fydd yn galluogi gwneud penderfyniadau am brisiau a thocynnau er lles y cyhoedd a galluogi teithwyr i deithio ar ba bynnag deithiau sy’n angenrheidiol iddynt, waeth pwy sy’n gweithredu’r gwasanaeth. 

Mae’r map ffordd hefyd yn nodi ein bwriad i bontio i’r system newydd dros sawl blwyddyn. Rydym yn cynnig defnyddio dull daearyddol i gyflwyno’r gwasanaethau ar draws parthau masnachfraint. Bydd pob parth yn cynnwys cyfres o gyfleoedd masnachfraint a fydd ar gael i ystod o weithredwyr. 

Yn anad dim, mae’n ategu pwysigrwydd gweithio gyda’r diwydiant, gyda gweithredwyr bysiau, undebau llafur, a phartneriaid eraill i drafod pa system fasnachfreinio sy’n gweithio i Gymru, a chytuno arni. Rwy’n gobeithio y bydd y ddogfen hon yn nodi dechrau sgwrs fanwl a chynhyrchiol. 

Mae diwygio bysiau yn ganolog i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth ledled Cymru. Mae hyn, yn ei dro, yn hanfodol i greu newid o ran dulliau teithio, a heb wneud hynny ni allwn gyfrannu at gyflawni ein targedau sero net statudol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i drafod y cynigion hyn a manylu ar gam nesaf y gwaith er mwyn creu rhwydwaith bysiau sy'n gallu cyflawni'r nodau hynny.

Mae Ein Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau tuag at Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn ar gael: Diwygio’r bysiau yng Nghymru: ein map ffordd i fasnachfreinio