Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch o gefnogi Undebau Credyd ac mae, ers nifer o flynyddoedd, wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian yn y sector er mwyn cefnogi’r bobl hynny yn ein cymdeithas sy’n cael eu hallgáu fwyaf yn ariannol. Mae Undebau Credyd yn cael cryn dipyn o sylw yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ac maent yn rhan o’r ffordd yr ydym yn ymateb i’r agenda Diwygio Lles er mwyn lliniaru ei heffeithiau.

Rwyf yn gwneud y Datganiad Ysgrifenedig hwn er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r sector, ar ôl iddi drefnu y bydd swm ychwanegol o £1.9 miliwn ar gael ar ei gyfer o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Bydd hynny’n golygu y bydd modd estyn y Prosiect Undebau Credyd tan fis Mawrth 2017. Mae’r cyllid newydd hwn yn ychwanegol at y cymorth a roddwyd yn y gorffennol ac sydd wedi helpu i greu sylfeini’r berthynas gefnogol rhwng Llywodraeth Cymru ac Undebau Credyd fel y bo modd inni helpu’r aelodau hynny o’n cymdeithas sy’n cael eu hallgáu fwyaf yn ariannol.  

Mae’r cyllid sydd bellach yn ei le ar gyfer y tair blynedd nesaf yn ychwanegol at  yr hwb ariannol o £1.2 miliwn a gymeradwywyd gennyf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon er mwyn helpu Undebau Credyd i dyfu ac i feithrin capasiti, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da a wnaed hyd yma. Mae’r cyllid hwnnw wedi galluogi Undebau Credyd i ymgymryd ag amryfal brosiectau lleol a chenedlaethol sydd â’r nod o ddenu aelodau newydd, gwella’u busnesau, a hyrwyddo’u gwasanaethau drwy gyfrwng ymgyrch farchnata genedlaethol.

Rwyf yn hynod falch o weld bod yr ymgyrch farchnata genedlaethol hon bellach ar droed ac iddi gael ei lansio ar 14 Ebrill. Cafodd hysbyseb ei darlledu ar y teledu am y tro cyntaf ar y diwrnod hwnnw, a bydd i’w gweld tan fis Mehefin. Mae’r ymgyrch hon yn hyrwyddo Undebau Credyd mor eang ag y bo modd, gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau sy’n cynnwys y teledu, radio, y cyfryngau cymdeithasol a phapurau newyddion. Mae’r gwaith hwn ar y lefel genedlaethol yn cael ei ategu hefyd gan waith marchnata lleol sydd wedi’i deilwra ar gyfer undebau credyd lleol ac a fydd hefyd yn targedu pobl yn y grŵp incwm canol. Yn y bôn, mae gennym ddiddordeb mewn Undebau Credyd oherwydd ein bod am helpu’r bobl hynny sy’n cael eu hallgáu’n ariannol, ond rydym yn cydnabod fod yn rhaid inni hefyd ddenu pobl fwy cefnog os ydym am weld Undebau Credyd yn ffynnu. Nid denu aelodau newydd yw unig nod yr ymgyrch farchnata sydd ar droed ar hyn o bryd – mae hefyd yn rhoi brand cenedlaethol i Undebau Credyd ac yn eu huno drwy wefan Undebau Credyd Cymru.

Ochr yn ochr â’r gwelliannau busnes y llwyddwyd i’w cyflwyno gyda chymorth y swm o £1.2 miliwn a ddarparwyd ar gyfer cydweithredu, un o’r pethau calonogol yr oeddwn yn falch o’i weld oedd y cydweithredu diweddar rhwng yr holl Undebau Credyd hynny sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiectau cenedlaethol a fydd o fudd i’r sector cyfan. Mae’r gefnogaeth a’r anogaeth a roddasant i’w gilydd wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol iawn sydd i’w groesawu’n fawr, ac rwyf yn siŵr iddo fod yn rhan annatod o’r llwyddiant a gafwyd wrth gyflawni chwe phrosiect o bwys. Mae hynny i’w weld ar ei fwyaf amlwg yn yr her yr aeth Undeb Credyd Gogledd Cymru i’r afael â hi wrth gynnal ymgyrch farchnata genedlaethol ar ran holl Undebau Credyd Cymru. Gyda chymorth grŵp llywio o blith Undebau Credyd a oedd yn cynnwys Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr a Gateway, llwyddodd Undeb Credyd Gogledd Cymru i gyflawni’r dasg aruthrol hon yn unol ag amserlen dynn iawn. Bydd angen parhau â’r cydweithio hwnnw, ac adeiladu arno, ar gyfer gweithio gydag Undebau Credyd yn y dyfodol.

Yr hyn yr ydym am ei weld yn y dyfodol yw mudiad Undebau Credyd cynaliadwy a fydd ag amcanion cymdeithasol clir (er mwyn cefnogi’r bobl hynny sy’n cael eu hallgáu fwyaf yn ariannol) a sylfaen ariannol gadarn, lle bydd yr Undebau’n cefnogi ei gilydd. Er mwyn cyrraedd y nod yn hyn o beth, rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu Undebau Credyd i barhau i dyfu, er mwyn i fwy o bobl fedru manteisio ar eu gwasanaethau a chael y dewis o gynilo a chael benthyg arian ar gyfradd llog fwy teg.  Rhaid inni hoelio sylw ar greu mudiad cryfach a fydd ar gael yn fwy hwylus i unigolion ac a fydd yn ymateb yn well i’w hanghenion unigolion. Bydd heriau mawr o’n blaenau wrth inni fynd ati i gyrraedd y nod hwnnw. Mae cynyddu aelodaeth Undebau Credyd yng Nghymru yn bwysig er mwyn sicrhau sefydliadau cynaliadwy. Er mwyn iddynt fedru gweithio gyda’r aelodau hynny sy’n cael eu hallgáu’n ariannol, mae angen i Undebau Credyd ddenu cwsmeriaid sy’n ddigon sicr yn ariannol.

Ni all Llywodraeth Cymru gefnogi Undebau Credyd am gyfnod amhenodol. Bydd y swm o £1.9 miliwn a cyhoeddwyd gennym yn cael ei dapro dros y tair blynedd nesaf. Rwyf yn gobeithio y  bydd tapro’r cyllid fel hyn yn helpu’r Undebau Credyd i ganolbwyntio ar fod yn gynaliadwy ac i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf priodol mewn modd a fydd o fudd iddyn nhw ac i’w haelodau. Wrth i Undebau Credyd geisio bod yn fyw cynaliadwy, rwyf yn sylweddoli y gallent gytuno i uno’n wirfoddol. Yn y pen draw, felly, efallai y byddwn yn gweld nifer llai o Undebau Credyd mawr yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Rwyf o blaid uno os yw hynny o fudd i’r Undebau Credyd eu hunain ac i’w haelodau.  

Wrth inni fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau, rwyf yn gwbl glir fy meddwl bod yn rhaid wrth arweinyddiaeth gadarn a bod yn rhaid inni hefyd barhau i gydweithio er mwyn diogelu dyfodol y mudiad Undebau Credyd. Mae hynny’n gwbl hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru am gydweithio â’r sector i ddatblygu dull strategol o weithredu ac ymdeimlad o benderfyniad, sy’n helpu I fynd i’r afael â thlodi.

O ystyried y potensial aruthrol sy’n gysylltiedig â chefnogi gweithwyr yn y sector cyhoeddus, a  manteision hynny i’r naill ochr a’r llall, mae’r ymgyrch farchnata, a gafodd gymorth drwy’r cais ar y cyd am gyllid, wedi rhoi sylw hefyd i’r berthynas rhwng Undebau Credyd a’r sector cyhoeddus. Mae nifer o’r Undebau Credyd wrthi eisoes yn gweithio yn y maes hwn, gan gydnabod pwysigrwydd hynny o ran sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Rwyf am weld y berthynas honno’n cael ei datblygu ymhellach drwy gyflwyno rhaglenni i dynnu arian drwy’r gyflogres a chynnig benthyciadau moesegol i staff. Ddiwedd y llynedd, ymrwymodd fy nghydweithwyr yn y Cabinet i farchnata Undebau Credyd ymhlith gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus ac i hwyluso’r broses o dynnu arian drwy’r gyflogres. Gallai hynny olygu y byddai gan undebau credyd nifer sylweddol o aelodau newydd a fyddai’n ddigon sicr yn ariannol i roi sylfaen ariannol gadarn i undebau credyd. Mae rhagor o waith eto i’w wneud yn hyn o beth, ac rydym wrthi bellach yn ystyried beth sydd wedi deillio o’r gwaith cychwynnol a ddatblygwyd gan yr ymgyrch a sut i fynd ati i fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw.

Yn fy marn i, un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o drefnu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad parhaus ar gydweithredu yw drwy sefydlu Grŵp Cynghori'r Gweinidog, a fydd yn cynnwys unigolion allweddol o’r mudiad ac aelodau a fydd yn cynrychioli sectorau allweddol eraill sydd am gydweithio ag Undebau Credyd. Mae gwaith ar droed bellach i sefydlu’r Grwp hwnnw a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Cyn hynny, bydd cynhadledd yn cael ei chynnal yn yr haf ar gyfer Undebau Credyd Cymru, gan adeiladu ar y cydweithio a welwyd drwy’r cyllid cydweithredu. Bydd hynny’n rhoi’r amser inni ystyried y cymorth a roddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru ac i edrych ar yr hyn fydd ei angen yn y dyfodol. Bydd y gynhadledd yn llwyfan er mwyn lunio’r dyfodol.