Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a'r buddsoddiad cyfalaf ychwanegol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.

Ar 30 Tachwedd, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gau'r uned newyddenedigol i achosion newydd wedi i dri baban brofi'n bositif am Acinetobacter baumannii (A.baumannii) gan ddangos symptomau neu beidio. Roedd 14 o fabanod yn derbyn gofal yn yr uned pan gafodd ei chau.

Cafodd yr achosion eu rheoli yn unol â chanllawiau, ac fe gafodd yr uned yng Nghaerdydd gymorth gan Rwydwaith Newyddenedigol y De. Ail-agorodd yr uned ar 21 Rhagfyr. Nid oes unrhyw achosion newydd o'r organeb A.baumannii (babanod yn dangos symptomau neu beidio) ers 30 Tachwedd. Mae cyfres helaeth o fesurau wedi'i rhoi ar waith i reoli unrhyw risg pellach o groes-heintio ac mae babanod yn cael eu sgrinio am A.baumannii. Mae protocolau newydd ar gyfer glanhau offer gyda chynnyrch clorin hefyd wedi'u cyflwyno.

Ceisiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyngor proffesiynol annibynnol gan yr Athro Mike Sharland o'r Grŵp Ymchwilio i Glefydau Heintus Pediatrig ym Mhrifysgol St George, Llundain. Cadarnhaodd yntau bod yr ymateb i'r achosion wedi bod yn drwyadl ac effeithiol, ac nad oedd angen ymyrraeth bellach. Nododd yr Athro Sharland hefyd fod achosion o'r fath yn para am gyfnod hir ac er gwaetha'r ffaith nad oes achosion pellach yn cael eu cofnodi, roedd yn bosibl y gallai rhagor ddatblygu er bod yr holl ymyriadau priodol ar waith.

Wrth ailagor yr uned newyddenedigol, rhoddir blaenoriaeth i'r babanod hynny sydd angen gofal llawfeddygol a gofal meddygol ffetysol wedi'i gynllunio. Bydd mamau sy'n geni babanod y mae'n debygol y bydd angen cymorth newyddenedigol arnynt yn cael eu rheoli fesul achos. Gall rhai mamau lle bo amheuaeth y byddant yn geni cyn pryd heb yr angen am ofal critigol newyddenedigol gael eu trosglwyddo i unedau eraill yn y rhwydwaith newyddenedigo De Cymrul.

Rwyf wedi cymeradwyo £7.5m i foderneiddio gwasanaethau babanod sydd wedi'u geni cyn pryd ac sy'n sâl yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd hyn yn creu rhagor o le yn yr uned newyddenedigol a fydd yn ehangu i ddefnyddio gofod sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio gan ward arall. Bydd hefyd yn cynnwys sicrhau bod yr holl wasanaethau cymorth yn agos, y caiff adnoddau staff eu defnyddio'n effeithlon ac y cydymffurfir â'r safonau o ran y gofod rhwng crudiau. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i weithredu'r mesurau rheoli heintiau. Bydd yr uned ar ei newydd wedd yn cynnwys crudiau gofal arbennig, dibyniaeth fawr a gofal dwys.

Mae'r buddsoddiad hwn yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sef un o'r tair canolfan arbenigol sy'n darparu'r gofal newyddenedigol mwyaf cymhleth i fabanod a'u teuluoedd yng Nghymru, yn cefnogi cynlluniau hirdymor ar gyfer gwasanaethau'r De a fu'n destun ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o Raglen y De.