Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2013 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddiwygio holl gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus i'w gwneud yn llai costus i'r trethdalwr ac, o ganlyniad, yn llai buddiol i aelodau'r cynllun.  Cafodd y cynlluniau hynny eu rhoi ar waith ym mis Ebrill 2015.  Er hynny, roedd gweithwyr hŷn yn cael aros yn eu cynlluniau presennol, ar ôl cael “gwarchodaeth drosiannol” o'r diwygiadau.

Ym mis Rhagfyr 2018 dyfarnodd y Llys Apêl fod gwarchodaeth drosiannol yng nghynlluniau pensiwn diffoddwyr tân a chynlluniau pensiwn barnwrol yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail oedran.  Ym mis Gorffennaf 2019 derbyniodd Llywodraeth y DU fod gan ddyfarniad y Llys oblygiadau i'r cynlluniau gwasanaeth cyhoeddus eraill a oedd â threfniadau trosiannol tebyg, ac fe ymgynghorodd ar gynigion i unioni'r gwahaniaethu hwn y llynedd.

Mater a gedwir yn ôl yw pensiynau galwedigaethol.  Mater i Drysorlys EM ac i Senedd y DU yw deddfwriaeth sylfaenol yn eu cylch, ac felly ffurf gyffredinol y newidiadau y mae eu hangen i fynd i'r afael â'r dyfarniad hwn.  Er hynny, mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau o fewn y ddeddfwriaeth honno.  Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod cyfrifol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân yng Nghymru, felly mater i Weinidogion Cymru yw  penderfyniadau ynghylch manylion sut yr eir i'r afael â'r gwahaniaethu yn y rheoliadau ar gyfer y cynlluniau hynny. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb dros bensiynau grwpiau eraill o weithwyr yn y sector cyhoeddus, er y telir am bensiynau'r sector cyhoeddus i athrawon, staff y GIG, staff Llywodraeth leol a rhai gweision sifil o gyllidebau datganoledig.

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei dull manwl o fynd i'r afael â'r gwahaniaethu yn dilyn ymgynghoriad yn Hydref 2020 (dolan allanol, Saesneg yn unig).  Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i wneud newidiadau ôl-weithredol i fynd i'r afael â'r gwahaniaethu anghyfreithlon ar gyfer y cyfnod unioni rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022.  Bydd hyn yn rhoi dewis o fuddion cynllun pensiwn blaenorol neu gyfredol i aelodau cymwys mewn perthynas â'u gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwnnw; a gellir arfer y dewis hwnnw pan fyddant yn ymddeol.  Bydd hyn yn sicrhau bod aelodau'r cynllun yn gwneud y dewis gorau a mwyaf doeth yn seiliedig ar eu hawliau gwirioneddol yn y ddau gynllun.  Bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol hefyd yn cau'r cynlluniau cyflog terfynol presennol ar gyfer pob aelod o 1 Ebrill 2022, a bydd pob aelod gweithredol yn trosglwyddo i gynllun 2015 o'r dyddiad hwnnw.

Er hynny, mae'r newidiadau hyn yn gymwys ar draws y sector cyhoeddus cyfan ym Mhrydain Fawr.  Mae llawer o oblygiadau manwl i ddiffoddwyr tân a'u cynlluniau pensiwn y bydd angen mynd i'r afael â hwy hefyd.  Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag Awdurdodau Tân ac Achub, Undebau Llafur a chynrychiolwyr cyflogeion i sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud yn brydlon ac yn deg.

Byddwn yn parhau i geisio sicrwydd cynnar gan Lywodraeth y DU ynghylch yr hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i sefydliadau'r sector cyhoeddus i'w galluogi i gynllunio ymlaen llaw.  Byddwn hefyd yn ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd yn talu'n llawn unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau y mae'n eu cyflwyno, yn gyson â'r egwyddorion yn y Datganiad o Bolisi Ariannu, er mwyn sicrhau nad yw arian hanfodol yn cael ei wyro oddi ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen.