Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi cyhoeddais y ‘Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol’. Fel yr amlinellwyd yn y ddogfen hon y dyddiad cau i Awdurdodau Lleol gyflwyno eu Datganiad o Ddiddordeb i uno’n wirfoddol oedd 28 Tachwedd.  

Mae hwn yn gyfle unigryw i Awdurdodau Lleol ddylanwadu ar ffurf llywodraeth leol ar draws Cymru yn y dyfodol. Rwy’n teimlo’n galonogol bod rhai awdurdodau wedi achub ar y cyfle hwn. Drwy gymryd rhan yn y broses hon, maent yn cydnabod y cyfle sy’n cael ei gynnig iddynt drwy uno gwirfoddol i fod ar flaen y gad wrth ffurfio rôl llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol.

Daeth tri Datganiad o Ddiddordeb i law Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau. Daeth y rhain oddi wrth:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r datganiadau hyn o ddiddordeb yn ystod yr wythnosau i ddod.

Hefyd, daeth llythyr i law Llywodraeth Cymru oddi wrth Gyngor Sir Abertawe a Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot yn hysbysu ymrwymiad gwleidyddol y ddau awdurdod i archwilio posibilrwydd sefydlu awdurdod newydd ac yn nodi y byddant yn ymgymryd â gwaith pellach i ddatblygu’r cynnig.

Yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd byddaf yn ysgrifennu at yr Awdurdodau Lleol priodol yn nodi fy marn am y Datganiadau o Ddiddordeb.  Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach yn y man.