Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn yn falch iawn o allu llongyfarch staff a chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar lwyddiant uwch-dîm y dynion drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Ar ôl bwlch o 64 mlynedd bydd ein gwlad unwaith eto'n cael ei chynrychioli yn y gystadleuaeth sy'n binacl y byd pêl-droed. Mae hon yn orchest aruthrol ac yn gwbl haeddiannol ar ôl llwyddiannau'r tîm yn yr Ewros yn 2016 a 2021. Mae'r angerdd, yr ymrwymiad a'r chwarae teg a ddangoswyd gan y tîm, ar y cae ac oddi arno, wedi ennill clod ar draws y byd chwaraeon ac wedi ysbrydoli'r genedl. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y llwyddiant hwn yn ysbrydoli llawer o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ac y bydd yn gadael gwaddol cadarnhaol iawn.

Mae fy nghydymdeimlad hefyd i dîm cenedlaethol Wcráin a chwaraeodd ran arwrol mewn gêm gystadleuol iawn ac mewn amgylchiadau heriol tu hwnt. Mae ein meddyliau'n amlwg gydag Wcráin wrth i’r rhyfel barhau. Hoffwn hefyd ganmol ymddygiad y cefnogwyr a'r chwaraewyr tuag at dîm Wcráin a'u cefnogwyr. Mae gan chwaraeon bŵer penigamp i uno pobl, a gwelsom hynny'n glir yn y ffordd y cafodd ein gwesteion o Wcráin eu trin gan gefnogwyr a chwaraewyr fel ei gilydd, gyda chynhesrwydd, parch a charedigrwydd. Maent yn cynrychioli'r gorau ohonom, a phwy ydym ni fel gwlad.

Fel gwlad, rhaid inni ystyried sut i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Cymru’n cymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol hwn. Mae'r cyfleoedd hyn hefyd yn dod â chyfrifoldeb i ymgysylltu â gwledydd nad ydynt bob amser yn rhannu ein gwerthoedd, boed hynny o ran hawliau dynol, hawliau LHDTC+, hawliau gweithwyr neu ryddid gwleidyddol a chrefyddol. Mae ymgysylltu â gwledydd yn gyfle i ddatblygu llwyfan ar gyfer trafodaeth bellach, codi ymwybyddiaeth, ac o bosibl ddylanwadu er mwyn newid ffordd o weithio. Edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill i gyflawni hyn, a dymunaf bob llwyddiant i'r tîm yn y rowndiau terfynol yn ddiweddarach eleni.