Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig, a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o fod wedi cynnal uwchgynhadledd a gweithdy ar Perchnogaeth Cŵn Cyfrifol: Gweithredu ar Gŵn Peryglus mis diwethaf. Ymunodd cynrychiolwyr o’r Awdurdodau Lleol a’r Heddlu, aelodau o’r Trydydd Sector, ac arbenigwyr â mi i drafod nifer o faterion penodol iawn yn ymwneud â perchnogaeth sy’n allweddol i sicrhau bod cŵn yn cael gofal priodol, eu bod wedi’u hyfforddi’n briodol a’u rheoli’n briodol.

Clywsom gan ystod o siaradwyr gan gynnwys Rob Taylor, Y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt a Emma Whitfield, mam Jack Lis, siaradodd yn ddewr iawn am golli ei mab mewn ymosodiad gan gi a’r effaith y mae hyn wedi’i chael arni hi a’i theulu, a’r hyn y mae’n teimlo sydd angen ei wneud i amddiffyn pobl yn well. Bu'r cyfranogwyr yn trafod llawer o themâu yn ystod sesiwn gweithdy a oedd â'r nod o ddeall sefyllfa perchnogaeth cŵn cyfrifol yng Nghymru a sut rydym yn gweithio, mewn partneriaeth, ag Awdurdodau Lleol, yr Heddlu ac elusennau Lles Anifeiliaid.

Cyflwynwyd nifer o argymhellion cynnar o sesiwn gweithdy’r uwchgynhadledd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Sut mae’r Heddlu yn blaenoriaethu ac adrodd am ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chŵn
  • Diweddaru a paratoi Rheoliadau Bridio Cŵn ar gyfer y dyfodol
  • Cyflwyno cofnod ffurfiol o ymosodiadau cŵn / ymosodiadau cŵn ar da byw.
  • Ystyried rhybuddion rheoli cŵn.
  • Sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith Ymchwilio a Deallusrwydd Bridio Anghyfreithlon a Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Cymru gyfan, ar ôl mis Mawrth 2024.

Mae perchnogaeth ci gyfrifol yn hanfodol i bob math o gi. Bydd swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau Trydydd Sector a chydweithwyr Awdurdodau Lleol i hyrwyddo perchnogaeth cŵn cyfrifol ac i gyflawni’r camau gweithredu tymor byr, canolig a hir a amlygwyd yn yr Uwchgynhadledd. Bydd swyddogion polisi lles anifeiliaid hefyd yn adolygu’n barhaus yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i atal y peryglon a achosir gan berchenogaeth anghyfrifol ar gŵn.

Rwy'n bwriadu ailymgynnull gyda chyfranogwyr a chynnal Uwchgynhadledd yn y flwyddyn newydd.