Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Soniais yng nghwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth y byddwn yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau yn dilyn yr Uwchgynhadledd ar Ffoaduriaid yr wythnos ddiwethaf. Roedd nifer o sefydliadau yn cynrychioli’r sector cyhoeddus a’r Trydydd Sector yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd. Maen nhw i gyd wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod Cymru yn medru chwarae ei rhan yn llawn yn y Cynllun Adleoli Personau Agored i Niwed. Cytunon ni i sefydlu Tasglu wedi ei gadeirio gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Rwy’n atodi dolen gyswllt i’r hyn y cytunwyd arno yn yr Uwchgynhadledd er gwybodaeth ichi. Bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn rhoi rhagor o wybodaeth i Aelodau’r Cynulliad mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 6 Hydref.