Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Rhagfyr, croesawais bron i 350 o gynrychiolwyr o 29 o wledydd i Gymru ar gyfer Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.  Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle euraidd i gyflwyno Cymru fel prif gyrchfan ar gyfer buddsoddiad rhyngwladol gwerth uchel ac i ddangos cryfderau ein heconomi, ein busnesau, ein prifysgolion a'n colegau, a'n cymunedau. Nid oes gan fwy na 150 o'r cwmnïau a'r sefydliadau a ymunodd bresenoldeb yng Nghymru ar hyn o bryd.

Fy nodau ar gyfer yr Uwchgynhadledd hon oedd:
•    Codi proffil Cymru fel economi ddeinamig a chynaliadwy, gan arddangos sut rydym yn ymateb i sbardunau busnes byd-eang ac yn hyrwyddo twf, swyddi gwyrdd, a datgarboneiddio.
•    Cyflwyno Cymru fel canolbwynt rhagoriaeth y DU, gan dynnu sylw at sectorau, lleoedd a chlystyrau blaenoriaeth sy'n dangos bod Cymru yn lle ardderchog i fuddsoddi ynddo yn y DU.
•    Gosod Cymru, ac ystod dethol o gyfleoedd i ymwneud â phrosiectau lleol a rhanbarthol ar draws meysydd fel adfywio, ynni a seilwaith, fel cynnig masnachol deniadol ar gyfer cyllid y sector preifat.
•    Cysylltu buddsoddwyr â chyfleoedd ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod yr Uwchgynhadledd yn gweithredu fel sbardun ar gyfer buddsoddiad newydd a phartneriaethau economaidd hirdymor.

Tynnodd yr Uwchgynhadledd sylw at chwe sector lle mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd, ac sydd wedi'u paratoi ar gyfer twf: technoleg a digidol, gwyddorau bywyd, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol, ac ynni glân. Mae'r rhain yn cyd-fynd yn dda â Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae'r ehangder hwn yn tanlinellu natur ddeinamig a chynyddol amrywiol economi Cymru.

Cynhaliwyd bron i 50 o gyfarfodydd dwyochrog rhyngddo i a’m cydweithwyr Gweinidogol gyda chwmnïau sydd naill ai'n fuddsoddwyr presennol neu â diddordeb buddsoddi yng Nghymru. Roedd Gweinidogion Llywodraeth y DU gan gynnwys y Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach hefyd yn bresennol, gan ddangos sut mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd er budd Cymru.

Roedd y cynrychiolwyr yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau grŵp a gynlluniwyd i roi gwybod i ddarpar fuddsoddwyr am yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig yn y sectorau a amlygwyd, clywed gan leisiau blaenllaw ac arbenigwyr yn y sectorau hyn am y galluoedd a'r potensial sydd gennym yng Nghymru, yn ogystal â gan fusnesau sydd eisoes wedi ymgartrefu yng Nghymru am yr hyn a wnaeth ein gwlad yn gyrchfan mor ddeniadol ar gyfer eu buddsoddiad.

Roedd y cynrychiolwyr hefyd yn gallu gwrando ar gyfweliadau ag economegwyr, buddsoddwyr ac arweinwyr diwydiant enwog ar faterion fel y dirwedd fuddsoddi byd-eang, ariannu dyfodol cynaliadwy i Gymru, ac arloesi, talent a chyfleoedd.  

Traddododd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru brif anerchiad a chyfarfod â chwmnïau o Gymru a oedd yn arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau, gan ddangos ystod yr arloesedd a'r sgiliau sydd eisoes yn bodoli yma a'r modd y gallant gefnogi cadwyni cyflenwi byd-eang.

Yn y deuddeg mis cyn yr Uwchgynhadledd, denodd Cymru swm sylweddol gwerth £4.6bn o fewnfuddsoddiad.  Yn ystod blwyddyn pan welodd y DU ostyngiad yn y lefelau buddsoddi cyffredinol (yn 2024/25), gwelodd Cymru gynnydd o 23 y cant yn lefelau buddsoddiad uniongyrchol tramor, gyda 65 o fuddsoddiadau newydd a 2,470 o swyddi newydd, gyda Chymru â'r ail gynnydd canrannol uchaf mewn prosiectau o unrhyw ranbarth yn y DU a'r ail gynnydd canrannol uchaf mewn swyddi newydd. Cafodd y swm hwn ei ragori gan gyhoeddiadau ar y diwrnod a oedd yn addo cyfanswm o £16bn tuag at greu swyddi a buddsoddi cyfalaf yn y blynyddoedd i ddod.

Ers yr Uwchgynhadledd, bu swyddogion yn brysur yn cysylltu â busnes newydd posibl ac yn derbyn galwadau gan fusnesau sy'n awyddus i barhau â'r sgwrs am gyfleoedd buddsoddi yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn y cyfnod i ddod mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiadau pellach, arwyddocaol sy'n gysylltiedig â'r Uwchgynhadledd a'n ffocws clir ar swyddi a thwf.