Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nos Iau 8 Rhagfyr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru Uwchgynhadledd Chwaraeon ar y cyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Daeth dros 200 o gynrychiolwyr ac aelodau o bob rhan o'r sector chwaraeon a hamdden a thu hwnt i drafod heriau, a chyfleoedd, llunio system chwaraeon gynhwysol yn seiliedig ar brofiadau byw cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu. 

Clywodd yr uwchgynhadledd sut mae rhai partneriaid yn cyrraedd cymunedau y maent yn draddodiadol wedi ei chael hi'n anodd ymgysylltu â hwy. Clywodd hefyd sut y gallwn wella ein ffyrdd o weithio i gynnwys pobl yn well wrth ddatblygu a darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Neges allweddol y siaradwr gwadd o Norwy - Per Tøien, uwch gynghorydd Pwyllgor Olympaidd a Pharalympaidd Norwy a’r Conffederasiwn Chwaraeon – oedd bod system chwaraeon lwyddiannus ei wlad yn seiliedig ar yr egwyddor o weithio gyda'i gilydd. Ond hyd yn oed mewn gwlad sydd â chyfraddau uchel o gymryd rhan, mae'n gweld heriau o ran recriwtio gwirfoddolwyr chwaraeon.

Y consensws o'r uwchgynhadledd oedd bod angen i'r sector chwaraeon fod yn fwy dewr yn ei benderfyniadau, yn feiddgar yn ei uchelgeisiau ac i darfu mewn modd gadarnhaol.   

Roedd yr uwchgynhadledd yn ddechrau proses i ddeall a wynebu'r problemau sy’n creu anghydraddoldeb o ran mynediad i chwaraeon ac i'n cefnogi i gyflawni ymrwymiad allweddol ar gyfer Rhaglen y Llywodraeth. Rydym yn cydnabod ar y cyd fod llawer o heriau, fel y pandemig a'r argyfwng costau byw, wedi dwysáu'r broblem hon mewn sawl cymuned. Byddwn yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau'r her a'r newid angenrheidiol er mwyn creu system sy'n caniatáu i bawb gael mwynhad gydol eu hoes mewn chwaraeon.