Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ar 22 Mai, cynhaliais Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad i edrych ar ymddygiad plant a phobl ifanc yn ein hysgolion a'n colegau. Ymunodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, a phartneriaid o bob rhan o'r system addysg, â mi, a hoffwn ddiolch i'r holl bobl a roddodd o'u hamser i'r drafodaeth bwysig hon.
Ers pandemig Covid-19 bu cynnydd yn yr adroddiadau sydd wedi dod i law am ymddygiad drwg mewn ysgolion a cholegau, gydag aelodau o'r gweithlu addysg, yr undebau llafur addysg ac awdurdodau lleol i gyd yn mynegi'u pryderon. Hynny yn amrywio o ymddygiad aflonyddgar lefel isel fel cadw sŵn, diffyg parch ac ymddygiad sy'n effeithio ar brofiadau dysgu'r dosbarth, i fygythiadau mwy difrifol o drais ac mewn rhai achosion cario a defnyddio erfyn.
Canfu ein harolwg diweddar o'r gweithlu fod dros 90% o'r ymatebwyr yn teimlo bod amrywiaeth, ystod, maint ac amlder yr ymddygiadau heriol neu aflonyddgar wedi cynyddu ers y pandemig. Mae'r rhesymau am y newid hwn yn amrywiol. Maen nhw'n cynnwys ansefydlogrwydd teuluol, pwysau economaidd-gymdeithasol, problemau iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae ffactorau allanol fel dylanwad y cyfryngau cymdeithasol a phroblemau cymunedol wedi arwain at weld ymddygiad mwy cymhleth mewn ysgolion.
Mae ysgolion a cholegau yn gorfod ymateb i nifer cynyddol o faterion cymdeithasol ehangach, sy'n effeithio ar brofiad dysgu ein plant a'n pobl ifanc a'u hymddygiad. Roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle i ni ddod ynghyd, i siarad am y materion hyn, am yr hyn sy'n gweithio ac am y camau y gallwn eu cymryd i gefnogi staff yn yr ystafell ddosbarth ac i helpu plant a phobl ifanc i ymroi â'u dysgu.
Cafwyd trafodaethau agored a gonest am yr anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu a hefyd am y camau y gallwn eu cymryd i wella pethau. Byddwn yn ystyried yr adborth manwl a'r syniadau a gyflwynwyd yn ofalus. Fodd bynnag, daeth rhai themâu pwysig i'r amlwg yn sgil y trafod y gallwn weithredu'n gyflym arnyn nhw i ddechrau gwneud gwahaniaeth.
Roedd yn amlwg bod angen cefnogaeth ar ein hysgolion a'n colegau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae hyn yn gofyn am fewnbwn gan bob rhan o'r llywodraeth ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach, gan gynnwys ein partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, cyfiawnder ieuenctid a phlismona ac eraill. Dw i'n ymrwymo heddiw i greu'r strwythurau sydd eu hangen i gefnogi gwaith aml-asiantaethol, i helpu sefydliadau i ddod at ei gilydd er mwyn taclo'r problemau mewn cymdeithas sy'n cyfrannu at ymddygiad anodd.
Roedd awydd cryf i ddiweddaru'r arweiniad i ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod mwy o eglurder a chysondeb ledled Cymru. Fe fyddwn ni hefyd yn sefydlu system ar gyfer rhannu arferion gorau rhwng ysgolion, yn lleol ac yn genedlaethol, gan ddysgu gwersi o ddulliau atal trais sy'n cael eu treialu mewn ysgolion ar hyn o bryd.
Un thema allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr uwchgynhadledd oedd yr angen i ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar dechnegau rheoli ymddygiad, tawelu sefyllfaoedd ac ymyrryd. Byddaf yn sicrhau bod y corff dysgu ac arwain proffesiynol newydd yn mynd i'r afael â'r gwaith hwn.
Yn olaf, rwy'n cydnabod bod angen sicrhau bod diffiniadau cyson a bod pob digwyddiad yn cael ei gofnodi. Mae angen data clir a chyson arnom ar lefel yr awdurdod lleol ac yn genedlaethol i wneud yn siŵr bod y camau a gymerwn yn seiliedig ar dystiolaeth.
Dyma ddechrau'r hyn a fydd yn rhaglen waith hirach, a byddaf yn myfyrio ymhellach ar y cyfraniadau a gafwyd yn yr uwchgynhadledd, a'r cynigion ar gyfer newid. Byddwn yn parhau i drafod â'r staff yn ein lleoliadau addysg, gyda rhieni ac yn bwysicach gyda phlant a phobl ifanc, i sicrhau ein bod yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein hysgolion a'n colegau.