Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae safleoedd glo brig wedi cael llawer o sylw gan newyddiadurwyr a gwleidyddion yn y misoedd diwethaf ac rwy’n ofidus iawn ynghylch effeithiau tymor hir peidio â’u hadfer ar gymunedau sy’n byw wrth eu hymyl.  Cyhoeddais fy mwriad i alw cynhadledd o’r holl brif randdeiliaid yn y sector glo brig yn ystod Dadl yr Aelodau Unigol yn y Cynulliad ar 22 Ebrill.

Diben y gynhadledd ar 9 Gorffennaf 2015 oedd trafod ac ystyried â’r holl randdeiliaid sut i drechu’r heriau sy’n gysylltiedig â llwyr-adfer safleoedd mewn ffordd gynaliadwy pan ddaw oes safle glo brig i ben.  Addewais y byddwn yn ystyried y cyfraniadau ac yn nodi fy mwriadau ar gyfer y dyfodol mewn datganiad ysgrifenedig.

Daeth cynrychiolwyr o awdurdodau cynllunio ym maes glo’r De a Llywodraeth yr Alban, arbenigwyr technegol a chyfreithiol, gweithredwyr a gweithwyr safleoedd ac unigolion o grwpiau cymunedol sy’n weithgar yn yr ardal, ynghyd ar gyfer y gynhadledd.  Roedd ACau a’u cynrychiolwyr hefyd yn bresennol.

Roedd bwriad y dydd yn glir; didoli holl gyfraniadau’r cynrychiolwyr yn nifer o egwyddorion ymarferol  allweddol a fyddai’n sail ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer cael hyd i atebion addas.

Clywodd y cynadleddwyr sut mae’r farchnad fyd-eang a grymoedd ariannol eraill yn creu anawsterau i’r diwydiant; bod cymunedau penodol yn dioddef oherwydd safleoedd glo brig penodol a hefyd oherwydd diffyg gwaith adfer a lliniaru; a bod gwasanaethau mwynau awdurdodau cynllunio lleol yn ei chael hi’n anodd diogelu eu hadnoddau staff ac arbenigeddau.  Rhoddwyd hefyd nifer o syniadau creadigol ger bron i’w trafod ymhellach.

Daeth yn amlwg fod y sefyllfa’n un gymhleth – mae cymysgedd o heriau strategol a lleol i fynd i’r afael â nhw a byddan nhw’n dylanwadu ar yr atebion sy’n bosibl.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae consensws clir bod angen gwneud rhagor o waith yn y meysydd canlynol:

  • cryfhau’r gwasanaeth cynllunio mwynau yng Nghymru trwy grynhoi sgiliau ac arbenigeddau; 
  • ennyn diddordeb awdurdodau lleol, diwydiant a’r  cymunedau yn y gwaith sy’n cael ei wneud ar y cyd gan Lywodraeth Cymru / yr Awdurdod Glo i baratoi canllawiau ar yr arferion gorau ynghylch cyfrif, crynhoi a rheoli bondiau gyda golwg ar greu sylfaen gyson ar gyfer trafodaethau ledled Cymru; 
  • adolygiad manwl o MTAN2, a fyddai’n cynnwys ystyried yr eithriadau i bolisi’r parthau clustogi; 
  • dechrau deialog gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig eu rhan yn hen safleoedd (yn enwedig y safleoedd portffolio lle roedd imiwnedd rhag bondiau) a chyflwyno ymatebion ar gyfer digwyddiad dilynol yn y dyfodol.

Ynghylch y pwynt olaf hwn, cefais gyfarfod ddoe ag Andrea Leadsom, Gweinidog Ynni DECC.  Bu’n drafodaeth lawn a di-flewyn ar dafod lle pwysleisiais farn glir y gynhadledd fod cyfran fawr o’r problemau adfer y mae cymunedau yng Nghymru yn awr yn eu hwynebu yn deillio o’r broses breifateiddio ddiffygiol a ddigwyddodd yn y 1990au.  Cytunodd Andrea Leadsom i lunio proses ar gyfer deialog adeiladol.