Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y mae’r Aelodau yn gwybod, cynhelir Uwchgynhadledd NATO Cymru yn y Celtic Manor ar 4/5 Medi.  Rydym yn cael ar ddeall mai dyma fydd y gynhadledd ddiplomataidd fwyaf erioed i’w chynnal yn y Deyrnas Unedig a’r digwyddiad mwyaf o dipyn o’i fath i’w gynnal yng Nghymru.

Yn  bennaf oll, cynhadledd waith yw Uwchgynhadledd NATO Cymru i lunio meddylfryd strategol NATO at y dyfodol.   Yn ngoleuni tensiynau rhyngwladol diweddar, mae hyn yn awgrymu y bydd agenda llawn a dwys o faterion i’w trafod a’u datrys.

Yn amlwg mae’r gynhadledd yn perthyn i NATO ei hun, a dyma’r corff sy’n gwneud y penderfyniadau am amserlen a fformat yr uwchgynhadledd.   Y Deyrnas Unedig yw’r llywodraeth sy’n gyfrifol am y gynhadledd ac mae’n gweithio gyda NATO i benderfynu ar drefniadau manwl.  Mae’n siŵr y bydd yr Aelodau’n deall bod heriau sylweddol o safbwynt diogelwch, cydnerthedd a logisteg y bydd angen mynd i’r afael â nhw er mwyn hwyluso’r uwchgynhadledd.  Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus Cymru yn cydweithredu’n llawn ac yn rhagweithiol gyda chyrff cyfatebol ar lefel y DU i hwyluso’r trefniadau sefydliadol angenrheidiol ar gyfer  y gynhadledd.

Gan gynnwys cynrychiolwyr, swyddogion, newyddiadurwyr a gweithwyr cymorth, ymddengys y bydd miloedd o ymwelwyr yn gweithio o amgylch lleoliad yr uwchgynhadledd yn ystod ei chyfnod byr.  Er bod yn rhaid i’r prif ffocws fod ar ganlyniadau’r gynhadledd wrth gwrs, mae Prif Weinidog y DU wedi datgan yn glir o’r cychwyn y dylai’r gynhadledd adlewyrchu dimensiwn Cymreig.   Mae fy swyddogion unwaith eto’n gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU er mwyn gwireddu’r rhan hon o uchelgais y Prif Weinidog ar gyfer y gynhadledd.  

Mae’n anochel y bydd logisteg a threfniadau diogelwch yn amharu rywfaint ar leoliadau’r gynhadledd ar adegau hollbwysig.  Mae’r heddlu wedi gosod Trefn Reoli Aur ac rwyf wedi cael fy mriffio am y trefniadau sy’n cael eu datblygu.  Bydd yr awdurdodau priodol yn rhannu gwybodaeth berthnasol gyda’r cyhoedd ar yr adegau iawn.  

Bydd ffocws y cyfryngau o bedwar ban byd ar Gymru yn ystod yr uwchgynhadledd yn mwy na gwrthbwyso unrhyw amhariad.  Hefyd bydd manteision amlwg i’r economi leol drwy ddarparu nwyddau a gwasanaethau.  Rydyn yn parhau i weithio gyda swyddogion ar lefel y DU i helpu i sicrhau bod yr uwchgynhadledd yn llwyddiant ac yn rhoi profiad cadarnhaol o Gymru i’n hymwelwyr.