Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd y trydydd Uwchgynhadledd Profiad o Ofal rhwng llysgenhadon ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2024. Roedd y Prif Weinidog, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau yn bresennol, ynghyd â chadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. 

Roedd yr uwchgynhadledd yn ddiwrnod ysbrydoledig ac adeiladodd ar y ddau ddigwyddiad blaenorol, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a Llandudno ym mis Rhagfyr 2022 a mis Hydref 2023, yn y drefn honno. 

Roedd yn gyfle i Weinidogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r llysgenhadon ifanc am y cynnydd a wnaed ers i'r Prif Weinidog lofnodi datganiad yn ymrwymo i ddiwygiad radical o wasanaethau gofal i blant a phobl ifanc a chlywed gan bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal am eu syniadau ar gyfer newid.

Mae enghreifftiau o gynnydd yn cynnwys: 

  • Bydd y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol yn gwella arferion gweithio, yn cymell cysondeb ac yn cyflwyno'r gyfres gyntaf o safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Bydd y Fframwaith yn cynnwys gwelliannau i’r trefniadau ar gyfer brodyr a chwiorydd sy'n derbyn gofal. 
  • Lansiwyd y Siarter Rhianta Corfforaethol ym mis Medi 2023 i ddiogelu a hyrwyddo profiad a lles pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan sicrhau bod pobl yn gwrando arnynt a'u bod yn rhan o benderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Erbyn hyn, mae 29 o Rieni Corfforaethol wedi ymrwymo i’r Siarter gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru ac 8 awdurdod lleol.
  • Mae pobl sy'n gadael gofal yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd. Mae Fframwaith Llety a Chymorth Pobl sy'n Gadael Gofal Cymru wedi'i adolygu a'i ddiweddaru. 
  • Mae adolygiad o rôl ymgynghorwyr personol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal wedi dechrau. 
  • Mae gwaith yn mynd yn ei flaen ar fanyleb gwasanaeth iechyd meddwl newydd i blant a'r glasoed, ac mae'r strategaeth iechyd meddwl newydd yn destun ymgynghoriad. 
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i ddileu elw preifat o ofal plant a phobl ifanc fel bod pob ceiniog a gaiff ei wario ar wasanaethau gofal yn cael ei dargedu tuag at ddarparu a gwella gwasanaethau.

Hoffwn ddiolch i Voices from Care Cymru am drefnu'r uwchgynhadledd hon ac, yn bwysicaf oll, yr holl lysgenhadon gofal ifanc am barhau i rannu eu profiadau a'u barn gyda ni. 

Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda nhw i ail-lunio'r system ofal yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y cyfarfod nesaf ymhen 12 mis.