Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mynychais 45ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Guernsey ar 9–10 Gorffennaf 2026.

Mae cyd-hysbysiad sy'n amlinellu'r materion a drafodwyd ac y cytunwyd arnynt yn yr Uwchgynhadledd, ynghyd â rhestr o fynychwyr, wedi'i gyhoeddi.

Thema'r Uwchgynhadledd oedd “Meithrin Dechreuadau: Cryfhau'r Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd ar gyfer Plentyndod Hapus, Iach a Llesiant Gydol Oes”. Canolbwyntiodd trafodaethau ar yr uchelgais a rennir ar draws gweinyddiaethau aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd drwy gymorth blynyddoedd cynnar effeithiol, darpariaeth gofal plant a gwasanaethau teuluol. Rhoddodd hyn gyfle i gyfnewid tystiolaeth, profiad ac arferion gorau ar gefnogi plant a theuluoedd, gwella canlyniadau drwy ymyrraeth gynnar, mynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch ac yn gydgysylltiedig â’i gilydd.

Amlinellais ymagwedd ataliol Llywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ar gyfer ymdrin â'r blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd, gan gynnwys ein ffocws ar fynd i'r afael â thlodi plant, gwella mynediad at ofal plant, cryfhau gwasanaethau cymorth i deuluoedd a chefnogi darpariaeth ddwyieithog o gamau cynnar datblygiad plentyn. Croesawais y cyfle i barhau i rannu tystiolaeth ac arferion gorau gyda phartneriaid ar draws yr ynysoedd hyn ar ddiddordebau cyffredin a heriau a rennir.

Roedd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys trafodaeth ar y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf. Rhoddais drosolwg o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor presennol y Senedd, gan gynnwys lleihau rhestrau aros y GIG, mynd i'r afael â thlodi plant a chostau byw, codi safonau addysgol, cefnogi swyddi a thwf economaidd, a chyflawni mwy o degwch i Gymru.

Rhoddwyd pwyslais ar bwysigrwydd sicrhau'r hyblygrwydd cyllidol a'r pwerau cyfansoddiadol sydd eu hangen i wella canlyniadau i bobl yng Nghymru, gan gynnwys datganoli pellach mewn meysydd fel plismona, cyfiawnder, rheilffyrdd, dŵr ac Ystâd y Goron. Tynnwyd sylw hefyd at uchelgais Llywodraeth Cymru i haneru'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y Deyrnas Unedig a sefydlu Asiantaeth Ddatblygu i Gymru i helpu i sicrhau bod ffyniant yn cael ei deimlo ym mhob rhan o Gymru.

Roedd y drafodaeth yn gyfle i ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal y cysylltiadau agosaf posibl â'r Undeb Ewropeaidd. Nodais yr effaith y mae amgylchedd rhyngwladol cynyddol anwadal, gan gynnwys y gwrthdaro yn yr Wcráin a'r Dwyrain Canol, yn ei chael ar gymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a gwydnwch economaidd, a phwysigrwydd y cydweithrediad rhwng llywodraethau wrth ymateb i'r heriau hyn.

Ar gyrion yr Uwchgynhadledd, fe wnes i gyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, y Gwir Anrhydeddus Darren Jones AS. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar gyllid teg i Gymru a'r pwerau cyfansoddiadol sydd eu hangen i wella canlyniadau i bobl yng Nghymru, gan gynnwys datganoli rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder. Tynnwyd sylw hefyd at yr achos dros fwy o gydraddoldeb rhwng Cymru a'r Alban mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig.

Cynhaliwyd cyfarfodydd dwyochrog hefyd gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth yr Alban, Llywodraeth Ynys Manaw, Llywodraeth Guernsey a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gan ganolbwyntio ar gryfhau perthnasoedd, cyfnewid barn ar flaenoriaethau cyfredol ac archwilio meysydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr a chydweithredu.

Bydd Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.