Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymunais â 40fed cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 23 a 24 Tachwedd, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Iwerddon.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Taoiseach Leo Varadkar TD ar ran Llywodraeth Iwerddon. Ymysg y rhai eraill a oedd yn bresennol oedd y Tánaiste Micheál Martin TD, Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Humza Yousaf ASA, Prif Weinidog Jersey, y Dirprwy Kristina Moore, Prif Weinidog Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Alfred Cannan MHK, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Chris Heaton-Harris AS.

Thema'r uwchgynhadledd hon oedd Trawsnewid Bywydau Plant: Mynd i'r Afael â Thlodi Plant a Gwella Lles.

Manteisiodd y Cyngor ar y cyfle i fyfyrio ar effaith barhaol cytundeb Belfast/Gwener y Groglith ar ei ben-blwydd yn 25 oed, a phwysigrwydd y Cyngor fel sefydliad annibynnol o dan y cytundeb.

Trafodwyd pynciau sydd o ddiddordeb i bawb, gan gynnwys y gwrthdaro yn Israel a Gaza; ymosodiad Rwsia ar Wcráin; amcanion hinsawdd a rennir; y berthynas rhwng y DU a'r UE a'r argyfwng costau byw parhaus. Roedd hyn yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, ac roedd pawb yn edrych ymlaen at weld y sefydliadau datganoledig sy'n rhannu grym yno'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl.

Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd yng ngoleuni'r trywanu trasig a'r terfysg dilynol yn Nulyn ar 23 Tachwedd. Nodais yn y cyfarfod llawn y potensial ar gyfer rhannu profiadau ar y cyd i gefnogi cydlyniant cymunedol.

Trafodwyd yr ymdrechion ar draws yr aelod-weinyddiaethau i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella lles. Yn ogystal â thynnu sylw at raglen Dechrau'n Deg Cymru, y cynllun i gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd a'r ymgynghoriad ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol, amlinellais hefyd ein cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal.

Cyhoeddwyd hysbysiad ar y cyd ar ôl y cyfarfod, sydd ar gael yma: 40fed Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig - Hysbysiad.pdf (britishirishcouncil.org)

Bydd uwchgynhadledd nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Ynys Manaw.