Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn yn bresennol yn 39ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 15 a 16 Mehefin, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Jersey.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Brif Weinidog Jersey, y Cynrychiolydd Kristina Moore, ar ran Llywodraeth Jersey. Ymysg y rhai eraill a oedd yn bresennol oedd y Taoiseach Leo Varadkar TD; y Tánaiste Micheál Martin TD; Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Humza Yousaf ASA; Prif Weinidog Guernsey, y Cynrychiolydd Peter Ferbrache; Prif Weinidog Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Alfred Cannan MHK; y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol; a’r Gwir Anrhydeddus Chris Heaton-Harris AS, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon.

Roedd hwn yn gyfle i fyfyrio ynghylch 25 mlynedd ers arwyddo Cytundeb Dydd Gwener y Groglith a phwysigrwydd y sefydliadau a sefydlwyd ganddo, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei hun.

Roedd thema’r uwchgynhadledd hon yn canolbwyntio ar bolisi tai ac ynni. Buom yn trafod yr ymdrechion sydd ar waith ar draws aelod-weinyddiaethau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i ddarparu tai fforddiadwy a chyflawni datgarboneiddio. Pwysleisiais fod dulliau adeiladu modern yn mynd y tu hwnt i ddylunio adeiladau modiwlar ac y gallant helpu i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ynni cynaliadwy. Maent hefyd yn cynnwys ymgorffori draenio trefol cynaliadwy ac yn gallu gwella fforddiadwyedd yn y pen draw.

Bu’r Cyngor yn trafod y datblygiadau geowleidyddol diweddaraf, gan gynnwys yr ymosodiad gan Rwsia ar Wcráin; yr argyfwng costau byw; newid yn yr hinsawdd; a pherthynas y DU â’r UE. Roedd hyn yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, gan ganolbwyntio ar Fframwaith Windsor. Wrth gyfrannu at y drafodaeth hon, tynnais sylw at bwysigrwydd sylfaenol ailsefydlu Gweithrediaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon ac arwyddocâd Fframwaith Windsor, sy’n gam cyntaf wrth ailsefydlu perthnasoedd rhwng y DU a’r UE. Mae Llywodraeth Cymru am weld y perthnasoedd hyn yn dyfnhau, gan gynnwys, er enghraifft, o ran cyfnewidiadau myfyrwyr, rhaglenni ymchwil ac Ewrop Greadigol.

Cyhoeddwyd cyd-hysbysiad ar ôl y cyfarfod, sydd ar gael yma: 39th British-Irish Council Summit, Government of Jersey 16 June 2023 Communiqué (Saesneg yn Unig)

Bydd Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Iwerddon.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.