Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn yn falch o groesawu arweinwyr gwleidyddol i Gymru ar gyfer 44ain cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd ym Mro Morgannwg ar 4 a 5 Rhagfyr. Thema'r uwchgynhadledd hon oedd ‘Dyfodol Creadigol: Datgloi potensial y diwydiannau creadigol ar draws yr ynysoedd hyn’. O ystyried thema'r uwchgynhadledd, ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol â mi yn yr uwchgynhadledd. Ar ôl y cyfarfod, cyhoeddwyd datganiad ar y cyd sydd ar gael yma.

Rhoddodd yr uwchgynhadledd hon gyfle i arddangos arloesedd a chynhyrchu o'r radd flaenaf yng Nghymru yn sectorau'r diwydiannau creadigol, gan gynnwys cynrychiolaeth o'r sgrin (Bad Wolf Productions; Ruth Jones), cerddoriaeth (Nancy Williams a Harry Nolan-Hampson; Quartet Draig), digidol (Rarebit Studios; Rocket Science; Wales Interactive) a chyhoeddi (yr Athro Mererid Hopwood).

Cadeiriais sesiwn lawn yr uwchgynhadledd a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar y sector sgrin. Rhoddodd y drafodaeth gyfle i rannu profiadau ar draws y llywodraethau a gynrychiolwyd, gan gydnabod bod y diwydiannau creadigol yn hanfodol i dwf economaidd, hunaniaeth ddiwylliannol, a dylanwad rhyngwladol tra'n cydnabod heriau fel cyllid, datblygu sgiliau, ansicrwydd cyflogaeth, trawsnewid digidol ac effaith deallusrwydd artiffisial. 

Amlinellodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol y cynnydd diweddar yng Nghymru, gan dynnu sylw at gyflawniadau Cymru Greadigol, asiantaeth bwrpasol ein llywodraeth ar gyfer y diwydiannau creadigol. Ers ei lansio yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi darparu cyllid pwrpasol ar gyfer cynhyrchu ac wedi cyflawni enillion economaidd sylweddol – dros £419 miliwn o fuddsoddiad o £33 miliwn. Mae mwy na 27,000 o bobl a mwy na 300 o gwmnïau wedi elwa o rownd gyntaf Cronfa Sgiliau Cymru Greadigol. Tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at ein hymdrechion i hyrwyddo amrywiaeth drwy bartneriaethau a chynlluniau prentisiaeth a phwysleisiodd ein hymrwymiad i gydweithio i oresgyn rhwystrau cyffredin a datgloi twf. Yn ogystal, pwysleisiodd bwysigrwydd mynediad teg at gyllid ledled y DU, diwygio cyfundrefn treth sgrin y DU, a fframwaith rheoleiddio i sicrhau cynaliadwyedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Wrth sôn am y newid cyflym ym mhatrymau'r defnydd o'r cyfryngau, nododd y Gweinidog fod Cymru'n arwain o ran mabwysiadu teledu sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd a nifer y fideos sy'n cael eu gwylio fesul diwrnod.

Rhoddodd y sesiwn lawn gyfle hefyd i fyfyrio ar y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf ar draws y llywodraethau a gynrychiolwyd a hefyd yn fyd-eang. Wrth agor y drafodaeth, nodais y cynnydd a wnaed yn y Dwyrain Canol ers y cyfarfod blaenorol tra'n cydnabod bod llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau heddwch sefydlog a pharhaol ym Mhalesteina. Fodd bynnag, mynegais bryder am ddioddefaint parhaus pobl Wcráin a'r gelyniaeth gynyddol gan Rwsia tuag at Ewrop. Cefnogais gynnydd ar drafodaethau masnach yr UE/DU, sy'n arbennig o bwysig i Gymru o ystyried ein cyfran uchel o allforion i'r UE, a nodais bryderon am effaith tariffau'r Unol Daleithiau, sy'n effeithio ar Gymru yn fwy na rhannau eraill o'r DU oherwydd ein proffil allforio. Rhoddodd y drafodaeth gyfle pellach i mi groesawu'r cyhoeddiadau yng nghyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU, gan gynnwys cefnogaeth i bobl ar incwm isel, codi'r cap budd-dal dau blentyn, a chynnydd yn yr isafswm cyflog a'r cyflog byw. Bydd y rhain oll o fudd i filoedd o bobl ledled Cymru. Yn ogystal â hyn, nodais y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn cynnal adweithyddion niwclear modiwlaidd bach cyntaf y DU, a dau barth twf deallusrwydd artiffisial.

Yn ogystal â'r drafodaeth lawn ffurfiol, galluogodd yr uwchgynhadledd ystod o drafodaethau dwyochrog ar draws y llywodraethau a gynrychiolwyd. Bydd Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Guernsey yn haf 2026.