Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw adroddiad sy'n cofnodi canlyniadau allweddol yr Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad mewn Ysgolion a Cholegau a gynhaliwyd ar 22 Mai. Daeth yr Uwchgynhadledd â bron i 120 o randdeiliaid, partneriaid ac ymarferwyr at ei gilydd, gan greu gofod pwerus ar gyfer cydweithio, ystyried a gweithredu.
Roedd yr Uwchgynhadledd yn creu cyfleoedd ar gyfer deialog agored i wyntyllu materion cyfredol, dathlu'r hyn sy'n gweithio, a llywio'r gefnogaeth i ymarferwyr. Yn ganolog i'r achlysur yr oedd ymrwymiad cyffredin i helpu pob plentyn a pherson ifanc i ffynnu. Mae'r adroddiad hwn yn cyfleu mewnwelediad, ymrwymiad a gweledigaeth yr ymarferwyr a'r rhanddeiliaid i greu amgylcheddau dysgu cadarnhaol, cynhwysol i bawb.
Bydd y corff cynyddol o dystiolaeth ar ymddygiad mewn ysgolion, gan gynnwys mewnwelediad allweddol o'r Uwchgynhadledd, yr arolwg cenedlaethol o ymddygiad a'r cyfarfod Bord Gron ar Ddiogelwch a Thrais yn llywio cynllun gweithredu ymatebol fel sail i'r rhaglen waith ar ymddygiad i'r dyfodol. Bydd y cynllun hwn yn hybu'r pum cam sydd i'w cymryd ar unwaith i fynd i'r afael ag ymddygiad a gyhoeddais ym mis Mai i sicrhau cefnogaeth ystyrlon i ysgolion a chanlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr.
Er mwyn cyflymu'r cydweithio â phartneriaid allweddol, arbenigwyr ac ymarferwyr, lansiwyd dau fforwm newydd y mis hwn, sy'n canolbwyntio ar y defnydd o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol mewn ysgolion ynghyd â gwahardd dysgwyr a'u cadw yn yr ysgol ar ddiwedd y dydd. Mae'r fforymau hyn yn dod â grŵp amrywiol o randdeiliaid at ei gilydd, gan gynnwys penaethiaid ac ymarferwyr rheng flaen, i sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn llywio ein camau nesaf.
Er mwyn llywio ein polisi ymddygiad i'r dyfodol â mewnwelediad ffres, mae gwaith ar y gweill i drafod ymchwil newydd pwrpasol, â phwyslais cryf ar lais rhieni. Bydd pecyn cymorth newydd ar ymddygiad, sy'n cael ei lansio ddechrau'r hydref, yn cynnig strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth a mewnwelediad ymchwil. Bydd yn adnodd cydweithredol, sy'n esblygu, a luniwyd gan ddarparwyr addysg. Rydym hefyd yn cryfhau ein gwaith ymgysylltu â phobl ifanc, drwy weithredu mewn ffordd sy'n gyson â gwaith pwysig Pwyllgor Troseddu a Diogelwch Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae'r cyfarfod Bord Gron a'r Uwchgynhadledd yn nodi cychwyn strategaeth bartneriaeth i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad mewn ysgolion a cholegau. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i raglen ymgysylltu ehangach yn yr hydref, a fydd yn canolbwyntio ar lais yr ymarferydd, y dysgwr a'r rhiant. Gyda'n gilydd, fe wnawn ni gyd-greu datrysiadau effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau canlyniadau gweladwy, ymarferol a fydd yn arwain at newid cadarnhaol mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
