Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru’n genedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan a bydd wastad felly. Yr UE yw partner masnachu pwysicaf Cymru o hyd a'r ffynhonnell fewnfuddsoddi fwyaf. Mae ein rhwydwaith yn Ewrop yn help hanfodol i hybu masnach a buddsoddi ac i wireddu ein hymrwymiad i gael perthynas ystyrlon ag Ewrop.

Gwnaethom groesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ailgychwyn y berthynas â’r UE ac rydym wedi bod yn glir iawn beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi defnyddio’r peirianwaith rhynglywodraethol i ymgysylltu’n adeiladol. 

Felly, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw yn dilyn Uwchgynhadledd yr UE-DU, sy'n rhoi cychwyn newydd ar y berthynas rhwng y DU a'r UE a chyfleoedd newydd ar gyfer gwella amddiffyn a diogelwch a ffyniant economaidd pobl a busnesau bob ochr i'r Sianel.

Roedd Llywodraeth Cymru’n glir bod sicrhau cytundeb gyda'r UE i leihau rhwystrau masnach mewn amaethyddiaeth, bwyd a diod yn flaenoriaeth.  Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw ar Safonau Glanweithiol a Ffytoiechyd. Daw cytundeb o'r fath â budd mawr i'n sectorau amaethyddol, bwyd a diod. Mae cynnyrch Cymru gyda'r cynnyrch o'r ansawdd uchaf sydd ar gael, a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod llais i flaenoriaethau Cymru mewn unrhyw drafodaethau. Byddwn yn dal i wasgu ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y cytundeb yn caniatáu i ni ailgychwyn gwerthu molysgiaid dwygragennog byw o ddyfroedd Cymru i’r UE. 

Rydym yn cydnabod mor bwysig yw diogelu cyflenwadau ynni a rôl ynni adnewyddadwy yn ein dyfodol. Rydym wedi galw’n groch am gydweithredu tynnach yn y meysydd hyn i wireddu'n huchelgeisiau ac rydym yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed heddiw.

Mae'r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) yn offeryn pwerus ar gyfer datgarboneiddio ac yn cefnogi ein nodau ar gyfer twf gwyrdd a swyddi gwyrdd. Daw alinio ETS y DU ag ETS yr UE â manteision i Gymru drwy greu cyfleoedd i ddiwydiannau Cymru a sicrhau cae chwarae gwastad mewn marchnad eang. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r cyfrifoldeb am ETS y DU gyda Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a Llywodraeth y DU, ac rydym yn croesawu'r datblygiad hwn.

Rydym yn croesawu hefyd gyhoeddiad y DU a'r UE o'u cyd-ymrwymiad i drafod cynllun symudedd ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn flaenoriaeth fawr i Lywodraeth Cymru am ein bod am weld ein pobl ifanc yn cael yr amrywiaeth ehangach posibl o gyfleoedd a phrofiadau i fanteisio arnyn nhw.  Rydym yn cefnogi cynigion fydd yn caniatáu i bobl ifanc elwa ar y cyfleoedd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol a ddaw o fyw, gweithio ac astudio yng ngwledydd ein gilydd. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cynllun yn cynnig manteision go iawn i Gymru ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl ifanc o bob rhan o'r UE.

Rydym wedi dweud droeon ein bod am weld Cymru yn cael cymryd rhan mewn mwy o raglenni'r UE, gan gynnwys Erasmus+. Mae ein buddsoddiad yn rhaglen Taith yn dangos ein hymrwymiad i ddysgu rhyngwladol ac wedi sicrhau nad yw cenhedlaeth o ddysgwyr wedi colli profiadau sy'n newid bywydau. Mae Taith yn cael ei chanmol gan Senedd Ewrop am ei bod yn cynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli a mudiadau llai, ac rydym wedi ymrwymo i gadw a datblygu'r fenter. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ein blaenoriaethau i fanteisio ar raglenni eraill yr UE fel Creative Europe a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.

Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd mwy o drafod yn benodol am y bennod yn y TCA sy'n ymdrin â chaniatáu mynediad ac arosiadau dros dro at ddibenion busnes a chydnabod cymwysterau proffesiynol. Yn ein trafodaethau, rydym wedi’i gwneud yn glir ein bod yn rhoi blaenoriaeth i fesurau a fydd yn ei gwneud hi'n haws i weithwyr proffesiynol Cymru wneud busnes yn yr UE. 

Rydym yn trysori'n fawr ein perthynas â sefydliadau, gwledydd a rhanbarthau yn Ewrop, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gydweithredu'n adeiladol ac yn llwyddiannus gyda'r UE trwy TCA UE-DU a'r datblygiadau a gyhoeddwyd heddiw. Dim ond trwy gydweithredu y gallwn fynd i'r afael â heriau byd-eang heddiw ac yfory.

Mae gwaith i'w wneud o hyd i gwblhau'r manylion, ac rydym yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rhan lawn mewn trafodaethau ar faterion datganoledig a materion sy'n effeithio ar Gymru. Byddwn yn parhau i sicrhau bod gan Gymru lais cryf yn y trafodaethau hynny.