Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o'r Senedd am nifer y Rhagdaliadau BPS a wneir yfory, 15 Hydref.

Bydd 97% o hawlwyr yn derbyn Rhagdaliad BPS gwerth 70% o’r amcangyfrif o werth llawn eu hawliad. Bydd dros £159.6m yn cael ei dalu i fwy na 15,600 o fusnesau fferm yng Nghymru.

Ar ôl diwedd Cyfnod Gweithredu’r Cytundeb Ymadael â’r UE, cyflwynais ddeddfwriaeth a oedd yn symleiddio gofynion BPS ar gyfer 2021 a thu hwnt. Roedd hyn hefyd yn caniatáu i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wneud Rhagdaliadau BPS cyn mis Rhagfyr heb fod angen cwblhau'r broses ddilysu hawliadau neu dderbyn cais ar wahân.

Mae gwneud Rhagdaliadau BPS yn rhoi taliad cynnar i'r mwyafrif helaeth o fusnesau fferm yng Nghymru, gan roi sicrwydd ariannol i'r diwydiant yn ystod cyfnod sy'n parhau i fod yn heriol ac ansicr dros ben.

Bydd taliadau llawn a thaliadau BPS 2021 sy’n weddill yn parhau i gael eu gwneud o 15 Rhagfyr 2021, yn amodol ar ddilysu hawliad BPS yn llawn. Bydd RPW yn defnyddio'r ddau fis nesaf i gynyddu nifer y ffermwyr sy'n derbyn y taliadau hyn yn gynnar yn y cyfnod talu.

Rwy'n disgwyl i bob hawliad BPS ond yr achosion mwyaf cymhleth gael eu dilysu'n llawn, ac y bydd pob taliad yn cael ei wneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2022.