Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi’r diweddaraf i aelodau ynghylch yr hyn yr wyf wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r pryderon difrifol am gampws Caerdydd y ‘West London Vocational Training College’.

Daeth Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o bryderon am gampws y coleg yng Nghaerdydd ym mis Medi eleni. Bryd hynny, tueddiadau a phatrymau recriwtio anarferol o ran myfyrwyr oedd canolbwynt ein pryderon.

Trafododd swyddogion statws campws Caerdydd y coleg gydag Uned Gwybodaeth Darparwyr Amgen yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ac yna cyfarwyddwyd y partner dilysu – sef Pearson UK – i gynnal adolygiad o’r campws. Ymwelodd Pearson â’r Coleg ar 21 Hydref ac ni nodwyd unrhyw bryderon sylweddol bryd hynny.

Hefyd, ceisiwyd sicrwydd gan Gyllid Myfyrwyr Cymru bod pob gwiriad preswylio a chymhwysedd priodol yn cael ei wneud mewn cysylltiad â myfyrwyr y coleg. Ni nodwyd unrhyw broblemau o ran materion preswylio, ond mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn awr yn cymharu data gyda Pearson.

Bellach, mae honiadau wedi’u gwneud sy’n awgrymu ei bod yn bosibl bod un unigolyn, neu fwy, o fewn y coleg wedi cydgynllwynio â darpar fyfyrwyr i dwyllo’r system cyllid myfyrwyr drwy ffugio cofnodion academaidd a chofnodion presenoldeb yn y coleg. Buaswn yn disgwyl i unrhyw honiadau o weithredoedd troseddol gael eu hatgyfeirio at yr heddlu i ymchwilio iddynt yn llawn.

Oherwydd difrifoldeb yr honiadau sy’n cael eu gwneud yn erbyn y coleg, mae fy swyddogion wedi ysgrifennu heddiw at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn eu cyfarwyddo i atal ar unwaith bob taliad i’r ‘West London Vocational Training College’ ac i’w fyfyrwyr yng Nghaerdydd tra bo ymchwiliadau’n mynd rhagddynt.

Efallai y bydd aelodau’n cofio y bu inni, yn gynharach eleni, ymgynghori ar gynigion i gryfhau meini prawf mewn perthynas â cheisiadau am ddynodiad penodol. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, rydym yn ystyried cyflwyno meini prawf newydd, mwy caeth yn y flwyddyn newydd. Bydd hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i gorff sy’n gwneud cais am ddynodiad brofi ei statws elusennol a dangos ei fod yn hyfyw’n ariannol ac yn cael ei reoli’n dda.