Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnes roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ym mis Mehefin y llynedd ynghylch prosiect arfaethedig Wylfa newydd, gan groesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU yn cychwyn trafodaethau â Hitachi. Gwnes hefyd groesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd ynghylch Bargen Sector Niwclear y DU.  Mae llawer o sïon wedi bod yn y wasg yr wythnos hon yn awgrymu y gallai Hitachi gefnu ar y prosiect.  Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad hwn er mwyn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater.

Mae Wylfa Newydd yn brosiect arwyddocaol a allai sbarduno manteision economaidd sylweddol i Ynys Môn, Gogledd Cymru ac yn wir y DU gyfan.  Rydym ni, fel llywodraeth, yn cydnabod cyfraniad sylweddol posibl y sector niwclear at gyflawni ein nod canolog o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, gan fanteisio ar gryfderau rhanbarthol a sicrhau ffyniant i bawb. Mae'n partneriaid yng Ngogledd Cymru yn cydnabod yr holl bosibiliadau sydd ynghlwm wrth y sector niwclear, gan gynnwys y casgliad allweddol o gwmnïau blaengar, mentrus a chymwys o fewn y gadwyn gyflenwi niwclear y gallwn ymfalchïo ynddynt yma yng Nghymru.

Mae'r holl sïon dros y dyddiau diwethaf, o'r herwydd, yn destun cryn bryder i ni. Er na allwn ymateb i'r sïon hyn rydym yn parhau i drafod a chydweithio'n agos â Chyngor Sir Ynys Môn, Horizon Nuclear Power ac â rhanddeiliaid eraill allweddol er mwyn monitro'r sefyllfa hon. Mae angen i bob un ohonom ganolbwyntio ar sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gyflawni ar gyfer Ynys Môn a bod gwaddol yn cael ei gyflawni a fydd yn parhau.

O ystyried hyn oll, hoffwn sicrwydd gan Lywodraeth y DU eu bod yn cymryd pob cam posibl i sicrhau bod modd i'r prosiect hwn barhau a'n bod yn sicrhau buddsoddiad mor sylweddol ac arwyddocaol ar gyfer Ynys Môn.

Rwyf wedi siarad â'r Gweinidog dros Ynni a Diwydiant, Richard Harrington AS, fore heddiw. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol.  Rwyf i a'm swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â Horizon Nuclear Power ac â Chyngor Sir Ynys Môn ac rwy'n bwriadu trafod y mater hwn ymhellach â rhanddeiliaid allweddol yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae angen i bob un ohonom barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, er mwyn cyflawni gwaddol a fydd yn parhau ar gyfer Ynys Môn, Gogledd Cymru ac yn wir y DU.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.