Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Heddiw caiff wythnos ‘CaruUndebau' ei lansio, sef y digwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith hanfodol y mae undebau llafur yn ei wneud ac yr wyf yn falch o'i ddathlu yng Nghymru.
Bob dydd o bob blwyddyn, mae undebau llafur yn helpu i wneud gwaith a gweithleoedd yn decach ac yn fwy diogel. Mae Llywodraeth Cymru yn glir ei barn - mae undebau llafur er budd pawb a bod mewn undeb llafur yw'r ffordd orau i weithwyr amddiffyn eu hawliau yn y gwaith, gwella eu profiad o waith a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.
Yn fwy na hynny, mae undebau llafur yn bartneriaid effeithiol a dyfeisgar i gyflogwyr gan helpu i nodi a datrys materion yn gynnar, darparu cefnogaeth ar iechyd a diogelwch a gwella ymgysylltiad a bodlonrwydd gweithwyr.
Dyna pam rydym yn codi ymwybyddiaeth o rôl undebau llafur, manteision ymuno ag undeb llafur, a’r gwerth a geir wrth i gyflogwyr ac undebau llafur weithio'n adeiladol a pharchu ei gilydd. Rydym yn annog cyflogwyr i ddarparu mynediad i undebau llafur, fel bod gweithwyr yn cael y cyfle a'r dewis i gael eu cynrychioli ar y cyd. Mae'r materion hyn wrth wraidd ein dull o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr ag undebau llafur i ddarparu mentrau fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy'n cefnogi sgiliau a chyflogadwyedd, a'r prosiect peilot Undebau a’r Byd Gwaith, sy'n helpu i roi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid ddysgu am yr hyn sy'n gwneud gweithle da.
Mae ein dull gweithredu, sydd wedi'i adeiladu ar sylfaen o bartneriaeth, cydweithio a pharch yn gwbl groes i'r dull gwrthdrawiadol y mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o'i ddilyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi wythnos 'CaruUndebau'. A byddwn yn parhau i hyrwyddo rôl undebau llafur a'r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i weithleoedd ac i Gymru.