Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Thema Wythnos Ffoaduriaid Cymru eleni oedd 'Croeso'. Mae gan Gymru hanes balch o groesawu ffoaduriaid o bob rhan o’r byd. Mae ffoaduriaid yn cael eu gorfodi i adael eu mamwlad er mwyn dianc rhag rhyfel, erledigaeth neu argyfwng naturiol a hynny, yn aml iawn, heb rybudd, ac ni allant ddychwelyd i’w mamwlad hyd nes bydd y sefyllfa a’u gorfododd i adael wedi gwella. Maen nhw’n wahanol i weithwyr mudol sydd wedi gwneud penderfyniad bwriadol i adael eu mamwlad i chwilio am well bywyd ond sy’n rhydd i ddychwelyd i’w mamwlad pe baent yn dymuno gwneud hynny.

Rwy’n dymuno anfon neges gref fod croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a’n bod wedi ymrwymo i’w cefnogi ac i'w galluogi i ailadeiladu eu bywydau a gwneud cyfraniad llawn i'r gymdeithas. Roedd Wythnos Ffoaduriaid Cymru yn gyfle i hyrwyddo'r neges ledled Cymru, gyda digwyddiadau a gafodd gynulleidfaoedd niferus ac a oedd yn gymorth i gryfhau cysylltiadau a'r ddealltwriaeth rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid a chymunedau Cymru.  

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod integreiddio’n cychwyn ar y diwrnod pryd y byddant yn cyrraedd. Er mwyn i geiswyr lloches a ffoaduriaid gael teimlo bod croeso iddynt yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, y Groes Goch Brydeinig a Chanolfan y Drindod.  Mae’r mudiadau hyn yn rhoi cymorth ac arweiniad i bobl sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi, ac sydd yn aml wedi gadael teuluoedd a ffrindiau y tu ôl iddynt ac wedi gorfod creu bywyd newydd yng Nghymru. Darperir cyllid hefyd i’r prosiect Gwasanaethau Mudo yng Nghymru dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru mewn partneriaeth â’r Ganolfan Mudo, Polisi a Chymdeithas (COMPAS) a’r Arsyllfa Fudo ym Mhrifysgol Rhydychen. Nod y prosiect yw ei gwneud yn haws i gael dull unffurf ledled Cymru o ymdrin â mudo, gan ystyried anghenion lleol.  Fe wnaeth y prosiect gynnal cynhadledd a gafodd gynulleidfa niferus ar 20 Mehefin, sef Mudo yng Nghymru: Datblygu Fframweithiau Strategol Lleol ar gyfer Integreiddio - Cynhadledd Ryngwladol i Gyfnewid yr hyn a Ddysgwyd.

Ym mis Mawrth 2016, ar ôl ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Ei nod yw cefnogi pob ffoadur a cheisiwr lloches, ni waeth sut y daeth Cymru’n gartref iddynt. Mae angen ein cymorth ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches wrth iddynt ymaddasu i'w bywydau newydd, ac mae’r Cynllun Cyflawni hwn yn nodi ein hymrwymiad i’w helpu yn  y broses hon. Mae’r Cynllun Cyflawni’n ddogfen fyw, a chaiff ei hadolygu’n rheolaidd, yn enwedig yng ngoleuni’r Rhaglen Adsefydlu Syriaid a chynlluniau newydd eraill i gefnogi plant sy’n ceisio lloches.

Dros y 7 mis diwethaf, mae nifer o ffoaduriaid o Syria wedi cael croeso yng Nghymru dan y Rhaglen Adsefydlu Syriaid. Rwy’n falch iawn o'r croeso a gawsant gan awdurdodau lleol, sefydliadau ac unigolion yng Nghymru. Mae llawer o’r awdurdodau lleol sydd wedi cymryd ffoaduriaid wedi gwneud hynny heb brofiad blaenorol o weithio gyda ffoaduriaid nac o ddarparu gwasanaethau iddynt, ond maent wedi derbyn yr her mewn modd eithriadol.

Yr her nesaf i wynebu’r Llywodraeth, sefydliadau statudol a sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru yw’r tri chynllun newydd gan y Swyddfa Gartref sy’n ymwneud â phlant sy'n geiswyr lloches a phlant sy'n ffoaduriaid: ‘Plant mewn Perygl’ - adsefydlu plant ac oedolion o ranbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica; ‘Plant sy’n Ceisio Lloches ar eu pen eu hunain o Wersylloedd yn Ewrop’; a’r ‘Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol’, a sefydlwyd i helpu i adsefydlu Plant sy’n Ceisio Lloches ar eu Pen eu Hunain ac sy’n cyrraedd y D.U., ledled y pedair gwlad. Mae is-grŵp o Fwrdd Gweithrediadau Cynllun Adsefydlu Syriaid Llywodraeth Cymru wedi cael ei sefydlu’n benodol i sicrhau cyd-drefniant ledled Cymru wrth adsefydlu plant sy’n ffoaduriaid a phlant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain. Bydd yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i greu capasiti, sgiliau ac arbenigedd ychwanegol fel eu bod mewn sefyllfa well i letya plant sy’n ffoaduriaid a phlant sy’n ceisio lloches.

Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’r Trydydd Sector i ddarparu dull partneriaethol ac i barhau i roi croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n dod i Gymru.