Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn ymgyrch flynyddol o weithredu er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, tynnu sylw at bwysigrwydd dweud am achosion, a chyfeirio pobl at y gefnogaeth sydd ar gael.

Eleni, mae darparwr Canolfan Cymorth Casineb Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, wedi helpu i gydlynu amrywiaeth o weithgareddau ledled Cymru i nodi'r wythnos, gan gydweithio â'r heddlu, awdurdodau lleol, a'r trydydd sector. Datblygwyd y gweithgareddau hyn o dan y thema, Cymru Ynghyd, sy'n tanlinellu pwysigrwydd cymunedau yn uno yn erbyn casineb o bob math. Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru hefyd wedi cyd-greu pecyn partner gydag adnoddau i helpu rhanddeiliaid i gyflwyno negeseuon ar thema benodol drwy gydol yr wythnos. Bydd pob dydd yn canolbwyntio ar fath gwahanol o drosedd gasineb.

Ar 11 Hydref 2022, byddaf yn siarad yn y digwyddiad Pobl Ifanc a Chasineb yng Nghymru Fodern a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. Bydd y digwyddiad yn archwilio effaith niweidiol ac ynysig troseddau casineb ar fywydau plant a phobl ifanc ac yn cynnig fforwm i dynnu sylw at arferion da o ran cefnogi'r rhai sydd wedi profi casineb.

Bu'n flwyddyn bwysig arall o gynnydd yng Nghymru. Rydym wedi pennu camau i fynd i'r afael â throseddau casineb yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ sydd ar y gweill, gan ddangos dull strategol o fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu gwlad wrth-hiliol erbyn 20230, lle caiff pawb ei werthfawrogi am pwy ydynt ac am y cyfraniad a wnânt. Mae mynd i’r afael â throseddau casineb yn hanfodol i’r weledigaeth hon, ac mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn ein harwain at y nod hwn.

Barn pobl Cymru sydd wedi siapio'r cynlluniau gweithredu hyn, ac mae'n amlwg o'u mewnbwn bod mynd i'r afael â throseddau casineb yn flaenoriaeth. Mae'r camau hyn wedi bwydo i gynllun gwaith Bwrdd Casineb a Thensiwn Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru. Drwy'r bwrdd hwn, rydym yn gweithio ar y cyd â'r pedwar llu heddlu yng Nghymru, ynghyd â Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, swyddfeydd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, a Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, er mwyn bwrw ymlaen â’r cynllun gwaith.

Un o rannau sylfaenol ein gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb yw Canolfan Cymorth Casineb Cymru. Ym mis Ebrill, lansiodd Llywodraeth Cymru y gwasanaeth cymorth newydd hwn, dan ofal Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, er mwyn darparu gwasanaeth cefnogi ac eirioli annibynnol o ansawdd uchel i hyrwyddo dewisiadau sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr ar gyfer pob dioddefwr troseddau casineb yng Nghymru. Mae'r Ganolfan yn defnyddio dulliau allgymorth ac ymgysylltu arloesol i sicrhau ei bod yn cyrraedd cymunedau sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol ac yn ddaearyddol ac mae'n canolbwyntio ar fod yn gynhwysol ac yn groestoriadol. Mae'r gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Fel rhan o'r gwasanaeth newydd hwn, mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc. Y llynedd, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i'w profiadau a'u hymwybyddiaeth o droseddau casineb. Amlygodd yr ymchwil fylchau mewn gwybodaeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n profi casineb, a gofyniad clir am wasanaeth a oedd yn gweddu'n well i'w hanghenion. Mewn ymateb, bydd y gwasanaeth hwn yn darparu cefnogaeth ac eiriolaeth briodol wedi’i theilwra, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a gwasanaeth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi. Mae hyn yn rhan o raglen ehangach ar gyfer hyfforddi ac ymgysylltu, a ddarperir gan y Ganolfan i gynulleidfaoedd amrywiol o bob sector ledled Cymru.

I gyd-fynd a'r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu gweithgarwch ei hymgyrch gwrth-gasineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru. Bydd hyn yn cynnwys hysbysebion ar y teledu ac ar-lein, gan ddefnyddio platfformau fel S4C, ITV, Facebook, ac Instagram. Y nod yw ategu’r gweithgareddau codi ymwybyddiaeth sy'n digwydd ledled Cymru ac annog pobl i ddweud am droseddau casineb. Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gaffael y contract i gyflawni cam nesaf Mae Casineb yn Brifo Cymru, a fydd yn para tan o leiaf fis Mawrth 2024.

Daeth y Prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion i ben ym mis Mawrth 2022, gyda 145 o ysgolion ledled Cymru wedi cael hyfforddiant ar godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sesiynau meddwl yn feirniadol. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wnaeth gyflwyno'r prosiect ar ran Llywodraeth Cymru ac mae wedi llunio adroddiad gwerthuso. Rydym yn awr yn ystyried beth yw’r ffordd orau o weithredu ar yr argymhellion a’r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect.

Yn ddiweddar rydym wedi cytuno i ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflogi gweithiwr cymorth i annog cymunedau yng Nghymru i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Mae cenhadaeth yr Ymddiriedolaeth, sef amlygu peryglon caniatáu i gasineb fynd heb ei herio, mor bwysig ag erioed ac yn gysylltiedig iawn â'n gwaith ehangach i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol.

Ar 6 Hydref, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref Ystadegau Troseddau Casineb Cymru a Lloegr ar gyfer 2021/2022. Mae'r ystadegau yn dangos cynnydd o 35% yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o gymharu â 2020/2021. Cofnodwyd 6,295 o droseddau casineb ar draws pedair ardal yr Heddlu yng Nghymru, ac o'r troseddau hyn:

  • roedd 3,888 (62%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â hiliaeth;
  • roedd 1,329 (21%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol;
  • roedd 227 (4%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â chrefydd;
  • roedd 864 (14%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud ag anabledd;
  • roedd 247 (4%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â phobl drawsryweddol.

Nid oes sicrwydd i ba raddau mae’r cynnydd mewn troseddau a gofnodir gan yr heddlu wedi deillio o ganlyniad i welliannau cofnodi parhaus, ochr yn ochr â'r ystod o waith i annog dioddefwyr i roi gwybod am achosion. Er enghraifft, cynhaliwyd ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru yn ystod hanner 2021/2022 (mis Hydref 2021 i fis Mawrth 2022) gyda chyfathrebu digidol, hysbysebu awyr agored wedi'i dargedu, a hysbysebu ar y teledu gyda'r nod o gynyddu hyder dioddefwyr i roi gwybod am achosion. Serch hynny, mae unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb yn peri pryder ac yn dangos pam mae angen ein gwaith parhaus yn y maes hwn.

Rydym yn dal i aros am ymateb gan Lywodraeth y DU i argymhellion Adroddiad Terfynol Comisiwn y Gyfraith ar Gyfreithiau Troseddau Casineb, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021. Ysgrifennais at Lywodraeth y DU eleni i ofyn iddi dderbyn yn syth yr argymhelliad y dylid estyn y troseddau gwaethygedig sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer hil a chrefydd i'r holl nodweddion eraill sy'n bodoli eisoes o fewn trefn ddeddfwriaethol troseddau casineb, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol. Byddai hyn yn neges glir bod troseddau casineb sy'n cael eu hysgogi gan gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd yn annerbyniol a bod canlyniadau difrifol i'r rhai sy'n cyflawni'r gweithredoedd atgas hyn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gamau wedi'u cymryd eto gan Lywodraeth y DU.

Rydym am sicrhau bod Cymru yn genedl lle mae pawb yn ffynnu ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021 i 2022 fod 84% o oedolion yn cytuno bod pobl o wahanol gefndiroedd yn dod ymlaen gyda'i gilydd yn dda, tra bod 82% yn cytuno bod pobl yn trin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth. Mae hyn yn dangos bod gennym gymunedau cysylltiedig â gwerthoedd a rennir yng Nghymru, ynghyd â llwyfan cadarn i weithio gyda'n gilydd i gael gwared ar gasineb a rhagfarn mewn cymdeithas.