Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ddechrau Wythnos Gofalwyr, hoffwn ddiolch yn bersonol ac o waelod calon i bob gofalwr di-dâl yng Nghymru. P’un ai a ydych chi’n darparu gofal am rai oriau yn unig, neu’n gyfrifol am ofalu yn llawn amser, diolch ichi.

Y thema eleni yw “cydnabod gofalwyr yn y gymuned.” Gall pawb helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl, nid dim ond teulu a ffrindiau ond cyflogwyr, meddygon teulu ac ysbytai, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a cholegau, busnesau lleol ac elusennau hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr a thrwy bartneriaeth rhwng Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, byddwn yn helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i fod yn fwy ymwybodol o ofalwyr ac i fabwysiadu dull cydgynhyrchiol o lunio a darparu gwasanaethau.

Rhan o’n gwaith i gefnogi gofalwyr yw deall bod angen i lawer o ofalwyr gymryd seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu ac ymlacio drwy wneud rhywbeth y maent yn ei fwynhau ac sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain. I gyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu, ym mis Ebrill 2022, cyhoeddais y byddai gofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru yn elwa o £9 miliwn dros dair blynedd i sefydlu Cronfa Seibiannau Byr newydd. Mae elfen newydd o’r cyllid hwn, “Amser”, bellach ar gael. Yn yr elfen hon, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio gyda sefydliadau’r trydydd sector i gynyddu nifer a math y seibiannau byr y gall gofalwr fanteisio arnynt.

O ganlyniad i’n gwaith gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, rwy’n falch iawn bod mwy o seibiannau byr bellach ar gael i ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion, a gynigir gan sefydliadau’r trydydd sector. Mae gan Gymru drydydd sector bywiog ac ystwyth ac ynddo elusennau, grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol felly bydd darparu’r elfen hon o’r cynllun mewn cydweithrediad â’r trydydd sector yn helpu i wreiddio dulliau arloesol ledled Cymru.

Rwy’n dal i fod yn ymwybodol iawn bod yr argyfwng costau byw yn parhau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i leihau’r baich ar bobl yng Nghymru. Y llynedd yn ystod Wythnos Gofalwyr, cyhoeddais £4.5 miliwn ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr. Nod y rhaglen tair blynedd hon yw cefnogi gofalwyr di-dâl ar incwm is i helpu i liniaru effaith uniongyrchol caledi ariannol. Ers ei lansio, mae’r gronfa hon wedi helpu mwy na 10,000 o ofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol y mae arnynt eu hangen. Mae’r Gronfa hefyd wedi helpu i nodi nifer sylweddol o ofalwyr nad oeddent yn hysbys i wasanaethau cyn hynny. Mewn rhai ardaloedd, roedd 70% o’r ymgeiswyr yn ofalwyr anhysbys yn flaenorol.

I weld a allai’r gronfa fod o fudd i chi, ewch i Rhaglen Cronfa Cymorth Gofalwyr – Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (dolen allanol).