Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach heddiw, daeth cynrychiolwyr o ystod amrywiol o sectorau ynghyd i barhau i ysgogi cynnydd ar nifer o fesurau wedi’u cynllunio i warchod ein hafonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) a mynd i’r afael â llygredd ffosffad, yn y Bedwaredd Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd. Mae uwchgynadleddau blaenorol wedi cael eu cadeirio gennyf i, y Prif Weinidog a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd. 

Hoffwn ddiolch i Syr David Henshaw, cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), am gadeirio'r uwchgynhadledd heddiw ac am yr ymgysylltu parhaus gan reoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio a chyrff amgylcheddol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hafonydd. 

Rydym wedi cyflawni llawer ers i'r Prif Weinidog ddod â sefydliadau at ei gilydd yn yr uwchgynhadledd llygredd afonydd gyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2022. Gyda’n gilydd rydym yn cyflawni Lleihau'r pwysau ar ddalgylchoedd afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) er mwyn helpu i ddarparu tai fforddiadwy. Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu wedi eu cwblhau, gan ganiatáu i rai datblygiadau i fynd ymlaen heb gael rhagor o effaith ar yr afonydd hyn, a darparu’r dystiolaeth berthnasol sydd ei hangen i ddatblygu ymyraethau ystyriol i wella ansawdd dŵr wrth inni symud ymlaen. 

Mae CNC wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gynnal adolygiad o drwyddedau gollwng dŵr, bron i 75% ar hyn o bryd, i ganiatáu i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) wneud penderfyniadau cynllunio o fewn dalgylchoedd ACA sy'n methu. Bydd trwydded newydd ar gyfer gwaith trin dŵr Five Fords yn galluogi bron i 3,000 o anheddau, heb arwain at faich ffosffad ychwanegol yn y dalgylch.  Mae hyn yn gyfran fawr o'r ceisiadau na phenderfynwyd arnynt eto yn nalgylch Afon Dyfrdwy.

Mae Llywodraeth Cymru hyd yma wedi sicrhau bod dros £1.5 miliwn ar gael i gefnogi’r cynllun gweithredu a hefyd wedi lansio cyfrifiannell faethynnau ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn offeryn hanfodol i ACLlau wrth wneud penderfyniadau cynllunio gwybodus ynghylch niwtraliaeth maethynnau, gan ystyried data ar lefel dalgylch a nodweddion ac anghenion lleol.

Roedd yr uwchgynhadledd yn gyfle gwych i CNC dynnu sylw at nifer o brosiectau y maen yn arwain arnynt mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar fwrdd yr uwchgynhadledd i wella ansawdd dŵr yn ein ACAau ac i drafod beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi natur i adfer ein hafonydd.

Rhoddodd Syr David Henshaw a Jon Goldsworthy o CNC gyflwyniad craff ar gynnydd prosiect 'Dalgylch Arddangos Teifi'. Cafodd y prosiect ei lansio ym mis Tachwedd, a daw â phartneriaid amrywiol at ei gilydd ar draws un dalgylch i brofi’r gwahanol ymyraethau, a fyddai os yn llwyddiannus ei ddefnyddio ledled Cymru.  Gallai ymyraetha o’r fath gynnwys dulliau rheoleiddio newydd a ffyrdd gwahanol i weld y data yn y dalgylch.  Mae gan hyn y potensial i weld newid sylweddol yn y ffordd rydym yn mynd ati i wella iechyd afonydd.

Rhoddodd Susy Kingham o CNC yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Pedair Afon LIFE, sy’n digwydd mewn pedair afon ACA – Afon Teifi, Afonydd Cleddau, Afon Tywi ac Afon Wysg.  Amlygodd Susie sut mae ymyriadau megis gosod parthau byffer afonol a rheoli glannau afonydd yn helpu i atal y dirywiad yn yr amgylcheddau dŵr ffres hyn a dechrau gwella'r fioamrywiaeth.  Ochr yn ochr â'r gwelliannau rheoli tir hyn ar hyd yr afonydd, mae prosiect LIFE hefyd yn gweithio i ailgyflwyno rhai o'n rhywogaethau prinnach sydd mewn perygl megis Misglen Berlog yr Afon. 

Bydd prosiectau fel hyn yn wersi pwysig i ddalgylchoedd eraill a bydd yn gyfraniad pwysig at gyflawni ein targed 30x30 mewn perthynas â'n rhywogaethau a warchodir a mynd i'r afael ag argyfyngau natur.

Rhoddodd Prif Swyddog Gweithredol Afonydd Cymru, Gail Davies-Walsh, grynodeb cynhwysfawr o'r gwaith adfer afonydd sydd wedi ei wneud drwy’r Ymddiriedolaeth Afonydd yn 2023, roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys; plannu 39,220 o goed i gefnogi’r gwaith byffer ar hyd afonydd a gwaith gyda busnesau’r gadwyn gyflenwi amaethyddol ar ddulliau o leihau maetholion yn Afon Gwy. 

Mae ansawdd dŵr yng Nghymru wedi gwella'n sylweddol iawn dros y degawdau diwethaf ond mae mwy inni ei wneud i adfer iechyd afonydd a hyrwyddo economi gynaliadwy. Ochr yn ochr ag adfer cynefinoedd yn rhagweithiol ar ein hafonydd, mae'n rhaid inni barhau i fynd i'r afael â'r pwysau arnynt tra'n sicrhau manteision gwirioneddol i gymunedau a busnesau lleol.

Mae'r Uwchgynadleddau Llygredd Afonydd wedi rhoi cyfle i ddysgu gan bob un am y ffyrdd y mae hyn yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus yng Nghymru heddiw, drwy bobl yn cydweithio ar draws rhanbarthau a sectorau. Rwy'n hyderus y bydd yr ymdrechion cydweithredol a gychwynnwyd trwy'r uwchgynadleddau yn parhau i sicrhau canlyniadau i bobl yng Nghymru, gan barhau i allugoi datblygiad tai cymdeithasol a darparu'r sylfaen ar gyfer mentrau pellach wedi'u targedu i adfer cadernid ecosystemau hanfodol ein afonydd.