Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd y Bil Dadreoleiddio ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Ionawr 2014.  Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf ddrafft ar 1 Gorffennaf 2013 at ddiben craffu arno cyn y broses ddeddfu.  

Caiff y datganiad ysgrifenedig hwn ei osod o dan Reol Sefydlog 30 - Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â darpariaeth yn y Bil a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar ei chyfer o dan Reol Sefydlog 29.   

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi mai ei hamcanion polisi yw lleihau baich rheoleiddio gormodol neu ddiangen ar fusnesau, cymdeithas sifil, cyrff cyhoeddus, trethdalwyr neu unigolion, gan felly hwyluso twf.  

Mae'r Bil yn eang ei gwmpas ac mae'n cynnwys nifer o ddarpariaethau yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli yng Nghymru, un ai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu'n gysylltiedig â swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â darpariaeth yn Atodlen 16, Rhan 2, paragraff 17 o'r Bil sy'n diddymu adran 101A(5) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

Mae Adran 101A yn cynnwys darpariaeth am y ddyletswydd ar ymgymerwyr carthffosiaeth i ddarparu carthffos gyhoeddus at ddibenion carthffosiaeth ddomestig lle y caiff yr amodau a ragnodir gan adran 101A (2) eu bodloni.  Mae gan rai cartrefi yng Nghymru a Lloegr systemau preifat ar gyfer trin carthffosiaeth nad ydynt wedi'u cysylltu â charthffos gyhoeddus.  Gall perchenogion neu feddianwyr cartrefi sydd â systemau preifat ar gyfer trin carthffosiaeth nad ydynt wedi'u cysylltu â charthffos gyhoeddus gyflwyno cais i'r ymgymerwr carthffosiaeth trwyddedig ar gyfer yr ardal i gysylltu'r system â charthffos gyhoeddus o dan yr amodau a ragnodir gan adran 101A o'r Ddeddf.

Mae'n rhaid i'r ymgymerwr asesu'r sefyllfa a phenderfynu a oes dyletswydd arno i ddarparu carthffos gyhoeddus.  Yng Nghymru, mae'n rhaid i'r ymgymerwr ystyried unrhyw ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi gan Weinidogion Cymru wrth wneud unrhyw benderfyniad.

Trwy ddiddymu adran 101A (5) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, bydd y Bil yn gwaredu'r gofyniad statudol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff Adnoddau Naturiol, OfWAT, (rheoleiddiwr economaidd y diwydiant dŵr); neu unrhyw gyrff neu bersonau eraill priodol, cyn cyhoeddi canllawiau ynghylch darparu carthffos gyhoeddus o dan adran 101A o'r Ddeddf honno. Mae'n gwaredu gofyniad tebyg ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr.

Cred Llywodraeth Cymru ei bod hi'n briodol fod y ddarpariaeth yn berthnasol i Gymru. Nid yw'r ddyletswydd i ymgynghori'n ofynnol gan fod gan Lywodraeth Cymru bolisïau a systemau sefydlog sy'n mynd gam ymhellach na'r gofynion a gaiff eu diddymu yn Neddf y Diwydiant Dŵr.  Mae ein polisïau a'n systemau yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyrff a gaiff eu henwi yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991, wrth ddatblygu polisïau newydd a chaiff y rhain eu dilyn wrth i ganllawiau perthnasol gael eu datblygu a'u llunio. Mewn gwirionedd, mae'r broses hon o ymgysylltu yn broses fwy helaeth na'r hyn a nodir yn adran 101A(5) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 o safbwynt ymgynghori.   O'r herwydd mae'r ddarpariaeth hon yn y Bil Dadreoleiddio yn gwaredu gofyniad deddfwriaethol diangen na fydd yn cael effaith andwyol ar unrhyw bartïon perthnasol yng Nghymru.  

Bernir ei bod hi'n briodol i'r ddarpariaeth hon gael ei chyflwyno drwy'r Bil Dadreoleiddio, gan na fyddai'n bosibl cyflwyno'r ddarpariaeth drwy Ddeddf Cynulliad.