Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae addysg a hyfforddiant ar ôl oed gorfodol yn hollbwysig er mwyn gwella bywydau ac ansawdd bywyd, ac mae’n hanfodol i ffyniant unigolion a ffyniant y wlad. Bydd eu hangen fwy nag erioed, ynghyd â gwaith ymchwil o safon, wrth inni ddod drwy’r cyfnod heriol hwn ac allan yr ochr draw.

Mae’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn rhoi’r adnoddau inni sicrhau cydberthynas gryfach byth rhwng dinasyddion, cymunedau, ymchwilwyr a darparwyr. Mae’n rhoi’r cyfle i greu system sy’n hawdd ei deall ac y gellir ei chyfleu’n llawer cliriach – gan sicrhau opsiynau a deilliannau o safon uchel i’n dinasyddion.

Yn sgil heriau Covid-19, mae Prif Weinidog Cymru a minnau wedi cytuno, yn gyndyn iawn, i ohirio cyflwyno’r Bil. 

Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth hon yn glir bod y Bil yn flaenoriaeth uchel iawn, a hoffem weld y Llywodraeth nesaf yn ei roi gerbron cyn gynted â phosibl yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn ddrafft o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) at ddibenion ymgynghori cyn gynted â phosibl, ac rwyf am wahodd y Senedd i graffu arno er mwyn inni allu datblygu cefnogaeth ar draws y pleidiau, a chefnogaeth ddinesig ehangach, i’r diwygiadau hyn wrth inni symud tuag at dymor nesaf y Senedd.

Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd, a byddai’n well gennyf beidio â bod wedi gorfod ei wneud. Ond â bil addysg arall yn cael ei gyflwyno, a’r cyfyngu ar adnoddau yn sgil Covid-19, daethom i’r casgliad bod yn rhaid gohirio cyflwyno’r Bil. Mae amharodrwydd Llywodraeth y DU i ymestyn y cyfnod pontio o ran Brexit yn gwneud y sefyllfa yn anoddach byth, gan y bydd yn rhaid inni arallgyfeirio adnoddau cyfreithiol sylweddol yn ystod tymor yr hydref er mwyn delio ag effaith ddeddfwriaethol y penderfyniad hwnnw.

Rwy’n parhau i fod yn argyhoeddedig bod y diwygiadau rydym wedi’u hamlinellu, gan adeiladu ar gynigion yr Athro Hazelkorn, yn hollbwysig i ddyfodol llwyddiannus a chynaliadwy dysgwyr o bob oed, ein heconomi, ein colegau a’n prifysgolion, a phawb y mae democratiaeth sy’n seiliedig ar addysg a brwdfrydedd yn bwysig iddynt.

Mae’r heriau i’n heconomi a’r sector addysg yn sgil Covid-19 yn golygu bod yn rhaid inni gydweithio mewn ffordd fwy strategol, gydlynol ac effeithlon i oruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil, o dan nawdd un Comisiwn, sydd â swyddogaeth glir i greu system sy’n gweithio i bobl ac economi Cymru. 

Ni allwn fforddio gohirio’r broses ddiwygio hon am gyfnod amhenodol. Mae’r argyfwng presennol yn creu brys newydd i sicrhau cyfleoedd dysgu ac i feithrin sgiliau sy’n glir, yn gydlynol ac yn berthnasol, a hynny i bobl o bob oed. 

Ni fydd pethau’r un fath mwyach ym maes addysg drydyddol, ac ni allant fod. Mae’r argyfwng eisoes yn newid addysg uwch a phellach yn aruthrol. Mae’n newid disgwyliadau myfyrwyr. Ni fydd yr hen drefn yn gweithio mwyach. Nawr yw’r amser i gymryd camau dewr i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y gwerth mwyaf posibl o’n sector addysg drydyddol, â Chomisiwn unedig newydd wrth y llyw.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn cydweithio’n agos â’n rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r Bil. Bydd ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft yn rhoi’r cyfle inni edrych ar y cynigion polisi manwl ac asesu effaith lawn y cynigion hynny, gwrando ar safbwyntiau ein rhanddeiliaid a chreu deddfwriaeth sy’n gweithio ar gyfer y sector ac sy’n ystyried y cyd-destun y bydd angen i’r sector weithredu o’i fewn yn y dyfodol yn sgil Covid-19.

Rwy’n cydnabod mai dim ond i ryw bwynt y mae deddfwriaeth yn gallu mynd o ran gweithredu’r diwygiadau diwylliannol a gynigir yn adolygiad Hazelkorn, ac o ran cefnogi a monitro perfformiad y sonnir amdano yn adolygiad Weingarten; mae’n broses hir a chymhleth – proses y byddwn yn parhau i’w datblygu gyda chymorth ein cydweithwyr o fewn y sector a Bwrdd Newid Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO). 

Byddwn yn parhau i ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer y sector AHO ochr yn ochr â’r Bil drafft. Hoffwn roi ar gofnod fy niolch i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt hwn, gan ddiolch yn arbennig i’m swyddogion. Fel sy’n digwydd yn achos pob ymgais i ddiwygio, mynegwyd safbwyntiau mwy ceidwadol gan rai, ond rydym wedi datblygu consensws cryf ar gyfer symud ymlaen. 

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’n rhanddeiliaid a’r Senedd wrth inni ymgynghori ar y Bil Drafft Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) dros y misoedd i ddod.