Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynwyd y Bil Dŵr yn Nhŷ’r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013. Cyhoeddwyd y Bil yn wreiddiol ar ffurf drafft yng Ngorffennaf 2012 er mwyn craffu arno cyn y broses ddeddfu.

Paratoir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae’n ymwneud â darpariaethau a gynhwyswyd yn y bil adeg ei gyflwyno sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond am nad ydynt yn rhai i’w hystyried o dan Reol Sefydlog 29 nid ydynt wedi eu cynnwys yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Dŵr a gyflwynwyd ar 18 Medi.  

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai ei hamcanion polisi yw diwygio’r diwydiant dŵr i’w wneud yn fwy arloesol ac ymatebol i gwsmeriaid ac i wella ei allu i wrthsefyll peryglon naturiol fel sychder neu lifogydd. Bydd y Bil hefyd yn cynnwys mesurau i ymdrin ag argaeledd a fforddiadwyedd yswiriant rhag llifogydd, ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â’r dull gweithredu arfaethedig.

Er hwylustod, disgrifir y darpariaethau sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn y drefn y’u cyflwynir yn y Bil. Mae 6 Rhan i’r Bil a 10 Atodlen. Is-rennir Rhan 1 yn 4 Pennod.

RHAN 1 – Y DIWYDIANT DŴR

PENNOD 1 – Trwyddedau Cyflenwi Dŵr a Thrwyddedau Carthffosiaeth 
Mae’r darpariaethau canlynol yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

Cymal 1 –. Mae’r cymal hwn yn disodli’r adran 17A bresennol o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ac yn ei lle yn rhoi darpariaeth newydd ar roi trwyddedau cyflenwi dŵr. Mae’r adran 17A newydd yn caniatáu i Ofwat roi trwyddedau cyflenwi dŵr sy’n rhoi hawliau penodol i’r deiliad mewn perthynas â’r system cyflenwi dŵr a darparu gwasanaethau cyflenwi dŵr i safleoedd cymwys yn ardaloedd ymgymerwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae “safleoedd cymwys” yn golygu safleoedd y ceir eu cyflenwi o dan awdurdodiad manwerthu neu awdurdodiad manwerthu cyfyngedig.

Mae is-adrannau (2) i (4) yn ymestyn y cysyniad o wahanol awdurdodiadau ar gyfer cyflawni gwahanol weithgareddau o dan y drwydded cyflenwi dŵr. Cedwir yr awdurdodiad manwerthu a’r awdurdodiad atodol presennol ar gyfer trwyddedeion sy’n defnyddio system gyflenwi ymgymerwr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru o dan yr enwau “awdurdodiad manwerthu cyfyngedig” ac “awdurdodiad atodol”.

Mae’r cymal hwn hefyd yn cyflwyno adran 17AA newydd i Ddeddf y Diwydiant Dŵr sy’n amlinellu’r personau y mae’n rhaid i Ofwat ymgynghori â hwy cyn rhoi trwyddedau ag awdurdodiadau penodol. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaeth i ymgynghori â Gweinidogion Cymru ynghylch penodi trwyddedeion sy’n defnyddio system gyflenwi ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

Cymal 5 – Byddai’r cymal hwn yn cymhwyso’r trefniadau trwyddedu newydd ar gyfer cyflenwi dŵr a charthffosiaeth at ardaloedd ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru yn yr un modd ag y’u cymhwysir at ardaloedd ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i roi Atodlen 5 mewn grym drwy gyfrwng gorchymyn sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae Atodlen 5 yn cynnwys pwerau cyfarwyddo ac ymgynghori i Weinidogion Cymru ynglŷn â gweithredu’r gyfundrefn drwyddedu newydd yn llawn ar gyfer yr ymgymerwyr hynny y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

PENNOD 2 – Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth 
Mae’r darpariaethau canlynol yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

Cymal 9 – Mae adran 110D newydd yn amlinellu’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i Ofwat eu dilyn wrth lunio cod, gan gynnwys gofyniad i ymgynghori. (Bydd gan Ofwat bŵer i lunio neu ddiwygio cod ynglŷn â chytundebau cysylltu prif bibellau, y bwriedir iddo gynyddu tryloywder a hwyluso gweithrediadau.) Rhaid i Ofwat bennu’r cyfnod ymgynghori pan fydd ymgyngoreion yn gallu gwneud sylwadau. O fewn 28 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori hwnnw gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru gyfarwyddo Ofwat i beidio â chyhoeddi’r cod, neu i’w ddiwygio yn unol â chyfarwyddyd, pan fo cod yn ymwneud â swmpgyflenwadau rhwng ymgymerwyr yn eu priod awdurdodaethau. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd ar y cyd os yw’r cod yn ymwneud â chysylltiadau prif bibellau rhwng ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr ac ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Dim ond unwaith, a dim ond mewn perthynas ag argraffiad cyntaf y cod, y gall y gweinidog perthnasol ddefnyddio’r pŵer hwn i roi cyfarwyddyd.

Mae adran 110H newydd yn amlinellu’r weithdrefn y mae’n rhaid i Ofwat ei dilyn cyn cyhoeddi rheolau ar godi tâl am wasanaethau sy’n gysylltiedig â chysylltu prif bibellau, gan gynnwys gofyniad i ymgynghori. Wrth baratoi’r rheolau drafft rhaid i Ofwat roi sylw i unrhyw ganllawiau ar godi tâl a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru. Rhaid i Ofwat bennu’r cyfnod ymgynghori pan fydd ymgyngoreion yn gallu gwneud sylwadau. O fewn 28 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori hwnnw gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru gyfarwyddo Ofwat i beidio â chyhoeddi’r rheolau, neu i’w diwygio yn unol â chyfarwyddyd, pan fo’r rheolau’n ymwneud â chysylltiadau prif bibellau rhwng ymgymerwyr yn eu priod awdurdodaethau. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd ar y cyd os yw’r rheolau’n ymwneud â chysylltiadau prif bibellau rhwng ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr ac ymgymerwyr sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

Mae adran 110I newydd yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i lunio a diwygio canllawiau codi tâl i Ofwat sy’n berthnasol i gysylltiadau prif bibellau rhwng ymgymerwyr yn eu priod awdurdodaethau neu ar y cyd mewn perthynas â chysylltiadau prif bibellau rhwng ymgymerwyr carthffosiaeth sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr ac yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru ymgynghori â’i gilydd ac â phersonau priodol eraill ynghylch eu canllawiau drafft cyn iddynt gael eu cyhoeddi.

Cymal 11 –. Mae adran 105ZD newydd yn amlinellu’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i Ofwat eu dilyn wrth lunio cod ynglŷn â chytundeb adran 104, gan gynnwys gofyniad i ymgynghori. (Mae cytundeb adran 104 yn rheoleiddio trefniadau rhwng ymgymerwr carthffosiaeth ac unrhyw berson sy’n ceisio darparu carthffosydd, draeniau neu waith gwaredu carthffosiaeth i’w mabwysiadu yn y pen draw gan yr ymgymerwr carthffosiaeth.) Rhaid i Ofwat bennu’r cyfnod ymgynghori pan fydd ymgyngoreion yn gallu gwneud sylwadau. O fewn 28 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori hwnnw gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru gyfarwyddo Ofwat i beidio â chyhoeddi’r cod, neu i’w ddiwygio yn unol â chyfarwyddyd. Mae pwerau Gweinidogion Cymru yn y cyswllt hwn dim ond yn ymwneud â chod, neu â’r rhan honno o god, y mae a wnelo â threfniadau ag ymgymerwyr carthffosiaeth sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Dim ond unwaith, a dim ond mewn perthynas ag argraffiad cyntaf y cod, y gall y gweinidog perthnasol ddefnyddio’r pŵer hwn i roi cyfarwyddyd.

Mae adran 105ZG newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Ofwat ymgynghori â phersonau perthnasol ynghylch y rheolau drafft. Wrth baratoi’r rheolau drafft rhaid i Ofwat roi sylw i unrhyw ganllawiau codi tâl a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru.

Mae adran 105ZH newydd yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i lunio a diwygio canllawiau codi tâl i Ofwat sy’n berthnasol i swmpgyflenwadau yn eu priod awdurdodaethau. Mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru ymgynghori â’i gilydd ac â phersonau perthnasol ynghylch eu canllawiau drafft cyn iddynt gael eu cyhoeddi.

Cymal 14 – Rhaid i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ofyn i Ofwat am farn, a rhaid i Ofwat roi barn, ar effaith uno cwmnïau ar allu Ofwat i reoleiddio ac ar faint yr effaith honno o’i chymharu â’r manteision posibl i gwsmeriaid. (Daw’r uno y cyfeirir ato yma o dan yr uno arbennig yn adran 32 i 35 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr.) Wrth wneud yr asesiad hwn, rhaid i Ofwat ddefnyddio’r dulliau a nodir yn y datganiad dulliau sy’n ofynnol o dan yr adran 33C newydd. Bwriad Llywodraeth y DU yw y dylai’r datganiad roi rhywfaint o sicrwydd i ymgymerwyr sy’n caffael, ac i’r CMA, ynglŷn ag a fyddai uno arfaethedig (gan gymryd i ystyriaeth unrhyw ymgymeriadau a gynigir o dan yr adran 33D newydd) yn tanseilio gallu Ofwat i reoleiddio ac effaith debygol tanseilio. Rhaid i’r CMA ystyried barn Ofwat cyn dod i benderfyniad.

Rhaid i Ofwat ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn paratoi neu newid y datganiad dulliau.

PENNOD 3 – Rheoleiddio’r diwydiant dŵr 
Mae’r darpariaethau canlynol yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

Cymal 27 – Mae’r cymal hwn yn ychwanegu adran 37A(A) newydd at Ddeddf y Diwydiant Dŵr sy’n nodi y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau i ymgymerwyr dŵr ynglŷn â’r sail ar gyfer paratoi cynllun rheoli adnoddau dŵr. Dim ond er mwyn sicrhau gallu’r ymgymerwr dŵr i ateb yr angen am gyflenwad dŵr i ddefnyddwyr y ceir rhoi’r cyfarwyddyd. Gall y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i gynllun gael ei baratoi ar sail rhagdybiaethau penodol ynglŷn â’r gallu i wrthsefyll a sicrwydd cyflenwadau mewn sychder a gall fod yn gysylltiedig â’r perygl o gael digwyddiadau tywydd penodol, ag amlder cyfyngiadau ar gwsmeriaid neu â seiliau eraill i ddisgrifio gallu i wrthsefyll, fel y lefelau o ddŵr sy’n ofynnol i ddiogelu’r cyflenwad. Mae’r ddarpariaeth yn berthnasol i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag ymgymerwyr dŵr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr.

Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn rhoi cyfarwyddyd o dan y cymal hwn.

Y SAIL RESYMEGOL DROS GYNNWYS Y DARPARIAETHAU HYN YN Y BIL DŴR

Mae Llywodraeth Cymru’n credu ei bod yn briodol i’r darpariaethau hyn fod yn gymwys i Gymru am fod y diwydiant dŵr a charthffosiaeth yn cael ei reoleiddio ar sail yr awdurdodaeth y gweithredir ynddi yn gyfan gwbl neu’n bennaf. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy’n gweithredu yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru (e.e. Dŵr Dyffryn Dyfrdwy a Dŵr Cymru) a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy’n gweithredu yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr (e.e. Severn Trent).

Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, Dŵr Cymru a Severn Trent i gyd yn gweithredu ar draws ffin ddaearyddol Cymru a Lloegr, felly mae’n fwy ymarferol deddfu ar bolisi’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio’r diwydiant dŵr mewn Bil gan Lywodraeth y DU sy’n ymdrin â Lloegr a Chymru. Bydd y cwmnïau hyn yn darparu cynlluniau a rhaglenni i sicrhau bod eu sefydliadau’n rhedeg yn esmwyth lle bynnag y maent yn gweithredu yn hytrach na chadw o fewn y ffin ddaearyddol.

Fe’i hystyrir yn briodol i’r darpariaethau hyn gael eu cynnwys yn y Bil Dŵr am na ellid gwneud y darpariaethau drwy Ddeddf Cynulliad.