Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caiff y datganiad ysgrifenedig hwn ei osod o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd u DU. Mae’n ymwneud â Gwelliant 412D[1] Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd ar 13 March 2023 yn ystod Cyfnod Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi, yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (“y Bil”) a fydd yn addasu swyddogaethau Llywodraeth Cymru ond nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Rheol Sefydlog 29, gan nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â’r ddarpariaeth gwelliant. Cyflwynwyd y Bil yn Senedd y DU, yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Mai 2022.

Roedd cydsyniad deddfwriaethol y Senedd yn ofynnol ar gyfer darpariaethau eraill yn y Bil o ran cynllunio defnydd tir; adroddiadau canlyniadau amgylcheddol ar gyfer cydsyniadau penodol; gwybodaeth a chofnodion yn ymwneud â thir, yr amgylchedd neu dreftadaeth; llywodraethiant Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig; crwydraeth a chardota. Gosodais Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol[2] a Datganiad Ysgrifenedig[3] gerbron Senedd Cymru ar 28 Medi 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29 a 30 yn y drefn honno. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig[4] ar 25 Tachwedd 2022. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol[5] ar 30 Tachwedd 2022 mewn perthynas â sawl gwelliant gan Lywodraeth y DU a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin. Gosodwyd Datganiad Ysgrifenedig[6] ar 21 Mawrth ynghylch gwelliannau Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrafodion rhithwir.

Y gwelliannau perthnasol

Bydd y gwelliant a gyflwynwyd yn galluogi rhai awdurdodau caffael yn y sector cyhoeddus lle maent yn hwyluso tai fforddiadwy, addysg, neu ddatblygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy orchymyn prynu gorfodol i allu gofyn am gyfarwyddyd gan yr awdurdod cadarnhau (Gweinidogion Cymru yn yr achos hwn) na fyddai angen i daliadau iawndal, ar gyfer cynllun penodol, gael eu gwneud mewn perthynas â gwerth gobeithiol lle gellir dangos bod achos er budd y cyhoedd. Mae hefyd yn caniatáu i effaith y cyfeiriad hwnnw gael ei wyrdroi os nad yw'r tir yn cael ei ddefnyddio wedi hynny fel y cynlluniwyd.

Ar hyn o bryd, mae iawndal yn daladwy mewn caffaeliad gorfodol ar gyfer y potensial o gael caniatâd cynllunio ar safle, a elwir yn werth gobeithiol. Mae adran 14 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (Deddf 1961) yn darparu y gellir ystyried caniatâd cynllunio arfaethedig wrth asesu iawndal ar gyfer caffael gorfodol. Byddai'r gwelliant a gyflwynwyd yn mewnosod adran newydd yn Neddf Caffael Tir 1981 (Deddf 1981) sy'n caniatáu i awdurdod caffael geisio cyfarwyddyd gan ddatgymhwyso adran 14 o Ddeddf 1961 fel na ellid ystyried gwerth gobeithiol mewn rhai amgylchiadau diffiniedig.

Y prif egwyddorion o dan yr adran newydd hon yw bod yn rhaid i'r awdurdod caffael restru'r deddfiad awdurdodi (h.y., y pŵer prynu gorfodol) sy'n ymwneud â naill ai tai, y GIG neu addysg yn y gorchymyn, a chyflwyno 'datganiad o ymrwymiadau' sy'n nodi bwriadau'r awdurdod caffael ar gyfer y tir os yw'r caffaeliad yn mynd rhagddo. Yn achos caffaeliadau yn ymwneud â thai, rhaid i hyn gynnwys darparu nifer penodol o unedau o dai fforddiadwy. Caiff yr awdurdod caffael hefyd gynnwys yn y gorchymyn bod iawndal i'w asesu yn unol ag adran newydd 14A Deddf 1961.

Os yw'r awdurdod sy'n cadarnhau yn penderfynu cadarnhau'r gorchymyn, rhaid iddo fod yn fodlon bod y cyfarwyddyd er budd y cyhoedd. Os na, rhaid iddo addasu'r gorchymyn i ddileu'r cyfarwyddyd. Mae'r darpariaethau'n cynnwys rhagor o fanylion am yr amodau sydd angen eu bodloni a sut i gyfrifo faint o iawndal sydd i'w dalu, os yw'n gymwys. Mae'r darpariaethau hefyd yn cynnwys pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ceisiadau cymwys, y camau y mae'n rhaid i'r awdurdod caffael neu’r awdurdod cadarnhau eu cymryd, llog a phryd y dylid talu iawndal.

Fel y nodais yn fy Natganiadau Ysgrifenedig[7] dyddiedig 28 Medi 2022 a 21 Mawrth 2023, yn ymwneud â’r Bil, mae cymhwysedd Senedd Cymru yn gyfyngedig mewn perthynas â phrynu gorfodol mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys tai a chynllunio defnydd tir. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw addasiadau arfaethedig i gyfraith prynu gorfodol, drwy gyfrwng deddfwriaeth sylfaenol, fod yn glir yng nghyd-destun newidiadau penodol i gyfraith cynllunio defnydd tir neu unrhyw fater arall nas cedwir yn ôl. Nid yw Senedd Cymru, felly, yn gallu addasu cyfraith prynu gorfodol yn gyffredinol neu er ei mwyn ei hun neu i gyflawni canlyniadau a gedwir yn ôl. Mae hyn yn atal Senedd Cymru rhag addasu’r rheolau cyffredinol ynghylch prynu gorfodol mewn deddfwriaeth megis Deddf Caffael Tir 1981 mewn perthynas â phob caffaeliad gorfodol yng Nghymru.

Bydd y ddarpariaeth yn ychwanegu agwedd ychwanegol at swyddogaethau presennol Gweinidogion Cymru yn eu rôl fel awdurdod cadarnhau. Felly, mae'r ddarpariaeth yn dod o dan Reol Sefydlog 30 ar gyfer darpariaethau a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog Rhif 29.

Rhesymau dros wneud y ddarpariaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella'r broses brynu orfodol er mwyn ei gwneud yn decach, yn fwy effeithlon, ac yn annealladwy. Ein blaenoriaeth yw cael gwared ar rwystrau i bwerau prynu gorfodol gan awdurdodau lleol, ac annog mwy o ddefnydd ohonynt, drwy symleiddio a moderneiddio'r broses brynu orfodol. Rydym o'r farn bod y gwelliannau yn welliant drwy ailgydbwyso'r sefyllfa rhwng yr awdurdod caffael a’r perchennog tir.

Er fy safbwynt ar y cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn fel y'i nodir mewn memoranda cydsyniad deddfwriaethol perthnasol, rwyf o'r farn ei bod yn briodol i'r ddarpariaeth mewn perthynas â phrynu gorfodol fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac iddo gael ei gynnwys yn y Bil hwn.

[1] https://bills.parliament.uk/publications/50270/documents/3123

[2] lcm-ld15356-w.pdf (senedd.cymru)

[3] gen-ld15357-w.pdf (senedd.cymru)

[4] lcm-ld15495-w.pdf (senedd.cymru)

[5] slcm-ld15508-w.pdf (senedd.cymru)

[6] Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau ynghylch Trafodion Rhithwir (21 Mawrth 2023) | LLYW.CYMRU

[7]gen-ld15357-w.pdf (senedd.cymru) Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Gwelliannau ynghylch Trafodion Rhithwir (21 Mawrth 2023) | LLYW.CYMRU