Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 - Hysbysu, mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae’n ymwneud â darpariaeth gwelliant[1], Llywodraeth y DU yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (“y Bil”) a gyflwynwyd ar 23 Chwefror 2023 yn ystod Cyfnod Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi, a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 arni gan nad oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â’r ddarpariaeth gwelliant. Cyflwynwyd y Bil yn Senedd y DU, Tŷ’r Cyffredin ar 11 Mai 2022.

Roedd darpariaethau eraill o’r Bil angen cydsyniad deddfwriaethol Senedd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau ynghylch cynllunio defnydd tir; adroddiadau canlyniadau amgylcheddol ar gyfer cydsyniadau penodol; gwybodaeth a chofnodion yn ymwneud â thir, yr amgylchedd neu dreftadaeth; llywodraethu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig; a chrwydraeth a chardota. Gosodais Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol[2] a Datganiad Ysgrifenedig[3] gerbron y Senedd ar 28 Medi 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29 a 30 yn y drefn honno. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig[4] ar 25 Tachwedd 2022. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol[5] ar 30 Tachwedd 2022 yn ymwneud â nifer o welliannau gan Lywodraeth y DU a gynigiwyd yn ystod cyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin.

Y ddarpariaeth gwelliant berthnasol

Mae’r gwelliant a gynigir yn gwneud darpariaeth i alluogi’r Ysgrifennydd Gwladol ganiatáu, neu ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cymryd rhan mewn trafodion perthnasol penodol sy’n ymwneud â chynllunio tir, datblygu tir neu brynu tir yn orfodol wneud hynny’n gyfan gwbl neu’n rhannol o bell (h.y. trafodion rhithwir). Un o’r trafodion perthnasol hynny yw trafodion o dan adran 13A o Ddeddf Caffael Tir 1981 neu baragraff 4A o Atodlen 1 iddi (“Deddf 1981”).

Mae’r gwelliant yn ychwanegu elfen newydd i un o swyddogaethau presennol yr Ysgrifennydd Gwladol (neu arolygydd) o dan Ddeddf 1981 a fydd yn galluogi iddynt ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cymryd rhan mewn trafodion penodol sy’n ymwneud â phrynu tir yn orfodol wneud hynny’n gyfan gwbl neu’n rhannol o bell. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau 1999, effaith y ddarpariaeth yw bod y swyddogaeth hon yn arferadwy gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Gorchmynion Prynu Gorfodol sy’n ymwneud â meysydd nas cedwir yn ôl ac a wneir yng Nghymru ac sy’n cael eu gosod i’w cadarnhau gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod cadarnhau.

Fel y nodwyd yn fy Natganiad Ysgrifenedig[6] dyddiedig 28 Medi 2022 a oedd yn ymwneud â’r Bil, cymhwysedd cyfyngedig sydd gan Senedd Cymru o ran prynu gorfodol mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys ym meysydd cynllunio tai a defnydd tir. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw addasiadau arfaethedig i gyfraith prynu gorfodol, drwy gyfrwng deddfwriaeth sylfaenol, fod yn glir yng nghyd-destun newidiadau penodol i gyfraith cynllunio defnydd tir neu unrhyw fater arall nas cedwir yn ôl. Nid yw Senedd Cymru felly yn gallu addasu cyfraith prynu gorfodol yn gyffredinol, neu er ei mwyn ei hun neu i gyflawni canlyniadau a gedwir yn ôl. Mae hyn yn atal Senedd Cymru rhag addasu’r rheolau cyffredinol ynghylch prynu gorfodol mewn deddfwriaeth megis Deddf Caffael Tir 1981 mewn perthynas â phob caffaeliad gorfodol yng Nghymru.

O ganlyniad felly, mae’r ddarpariaeth yn dod o dan Reol Sefydlog 30 ar gyfer darpariaethau a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 arnynt.

Y rhesymau dros wneud y ddarpariaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella’r broses prynu gorfodol er mwyn ei gwneud yn decach, yn fwy effeithlon a dealladwy. Ein blaenoriaeth yw cael gwared â rhwystrau o ran pwerau prynu gorfodol ac annog awdurdodau lleol i wneud rhagor o ddefnydd ohonynt a hynny drwy symleiddio a moderneiddio’r broses prynu gorfodol.

Fel llywodraeth, rydym o’r farn mai mân welliant yw hwn i swyddogaeth Gweinidogion Cymru sy’n bodoli eisoes o ran eu rôl o fod yn awdurdod cadarnhau. Mae’r ddarpariaeth gwelliant yn cadarnhau pŵer ymhlyg sy’n bodoli eisoes mewn deddfwriaeth sydd eisoes yn caniatáu i awdurdodau cadarnhau ei gwneud yn ofynnol i gynnal gwrandawiadau neu drafodion yn rhithwir. Yn awdurdod cadarnhau, bydd hyn yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau yn effeithiol ac yn effeithlon.

Rwyf o’r farn ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth fod yn gymwys o ran Cymru ac iddi gael ei chynnwys yn y Bil hwn.

[1] HL Bill 84—III (parliament.uk)

[2] https://senedd.cymru/media/aekd01xo/lcm-ld15356-w.pdf

[3] gen-ld15357-w.pdf (senedd.cymru)

[4] https://senedd.cymru/media/b0ic0haf/lcm-ld15495-w.pdf

[5] https://senedd.cymru/media/imxhvdlh/slcm-ld15508-w.pdf

[6] https://senedd.cymru/media/5qposota/gen-ld15357-w.pdf