Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynwyd y Bil Gofal (y “Bil”) yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 9 Mai 2013. Mae nifer o welliannau wedi cael eu gwneud i’r Bil ers ei gyflwyno.  Bydd gwelliannau penodol a gyflwynwyd ar 7 Hydref mewn perthynas ag ôl-ofal iechyd meddwl yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysiad mewn perthynas â Biliau Seneddol y DU.  

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai ei nodau polisi yw gwella safonau ac ansawdd ar draws y sector gofal a moderneiddio’r gyfraith fel bod lles unigolion yn flaenoriaeth, ynghyd â galluogi’r rheini sydd angen gofal iechyd a chymdeithasol i gael gofal da.

Mae cymal 71(4) o’r Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran cymorth ôl-ofal iechyd meddwl i bobl Cymru.

Mae’r ddarpariaeth hon yn rhan o gyfres o fesurau a fydd yn gwneud cyfrifoldebau awdurdodau lleol yn gliriach o ran sicrhau bod gwasanaethau ôl-ofal yn cael eu darparu i bobl sy’n agored i niwed (plant ac oedolion) pan fyddant yn symud neu’n cael eu lleoli ar draws ffiniau o Gymru i Loegr, neu i’r gwrthwyneb.

Bydd cymal 71(4) o’r Bil yn mewnosod isadrannau (4)(c) a (4A) i adran  117 o Ddeddf 1983, a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â phwerau i bhenderfynu ar anghydfodau ynghylch statws preswyl arferol person sydd â hawl i wasanaeth ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (fel y’i diwygiwyd) pan fo partïon i’r anghydfod yn cynnwys un awdurdod lleol neu ragor o Loegr ac un awdurdod lleol neu ragor o Gymru. Bydd hefyd yn rhoi dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i wneud trefniadau i bennu pwy fydd yn penderfynu ar anghydfod o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth a wneir yng nghymal 71(4) o’r Bil fod yn gymwys i Gymru ac y dylai’r ddarpariaeth honno fod yn y Bil Gofal. Mae’r darpariaethau’n ymwneud ag anghydfodau ynglŷn â statws preswyl arferol person pan fo partïon i’r anghydfod yn cynnwys un awdurdod lleol neu ragor o Loegr ac un awdurdod lleol neu ragor o Gymru.

Ar hyn o bryd, y llysoedd sy’n penderfynu ynghylch anghydfodau o dan adran 117(3) o Ddeddf 1983. Bydd y ddarpariaeth yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol wneud penderfyniad ynghylch anghydfodau sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol o Loegr ac o Gymru ynghylch statws preswyl arferol person sydd â hawl i wasanaeth ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf 1983 yn weinyddol yn unol â phrotocol y mae gofyn iddynt ei ddatblygu a’i gyhoeddi.

Ystyrir mai priodol fyddai gwneud y darpariaethau hyn drwy gyfrwng y Bil Gofal, oherwydd na ellir gwneud y darpariaethau drwy Ddeddf y Cynulliad.