Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynwyd y Bil Lleoliaeth i Dŷ’r Cyffredin ar 13 Rhagfyr 2010. Nodau Llywodraeth y DU yw dirprwyo mwy o bwerau i gynghorau a chymdogaethau a rhoi rheolaeth i gymunedau lleol dros benderfyniadau ynghylch tai a chynllunio.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU ddiwygiadau i’r Bil ar 3 Hydref i gyflwyno pwerau i Weinidogion Cymru i drosglwyddo i awdurdodau cyhoeddus Cymru ddirwyon tordyletswydd yr UE a orfodir ar Lywodraeth y DU  gan Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r diwygiadau hyn yn adlewyrchu diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 7 Medi mewn perthynas â Gweinidogion y DU i drosglwyddo dirwyon i awdurdodau cyhoeddus Cymru.

Hyd yn hyn nid yw Llywodraeth y DU erioed wedi cael ei dirwyo a bwriedir i’r mesurau hyn helpu’r sefyllfa honno i barhau.

Nid yw’r diwygiadau hyn sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru drosglwyddo dirwyon i awdurdodau cyhoeddus Cymru yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a barn Llywodraeth Cymru yw ei bod yn briodol i’r pwerau hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru yn y Bil hwn, sy’n un o Filiau’r DU, gan mai dyma’r dull deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur o alluogi’r darpariaethau hyn i fod yn gymwys yng Nghymru ar y cyfle cynharaf.