Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae'n ymwneud â'r darpariaethau penodol yn y Bil Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol (y Bil), a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 ar eu cyfer am nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol o ran y darpariaethau hynny.  Mae pensiynau galwedigaethol yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cyfrifol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân yng Nghymru ac maent yn arfer swyddogaethau gweithredol yn y cyd-destun hwnnw. 

Cyflwynwyd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 19 Gorffennaf 2021 ac, ar 12 Awst, gosodais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi’r darpariaethau yn y Bil sy'n effeithio ar swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chynlluniau pensiwn diffoddwyr tân yng Nghymru.  Mae'r datganiad hwnnw hefyd yn amlinellu cefndir y Bil a'i nodau eang, a dylid darllen y datganiad ysgrifenedig pellach hwn yn y cyd-destun hwnnw.

(https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-o-dan-reol-sefydlog-30c-32)

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am nifer o welliannau i'r Bil a gyflwynwyd yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi.  Mae'r holl welliannau hyn yn ehangu swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn y maes hwn; nid ydynt yn eu cyfyngu nac yn eu tynnu'n ôl.  Nid yw’r gwelliannau eraill a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod hwn yn cael unrhyw effaith ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

Diwygiadau perthnasol i’r darpariaethau yn y Bil

Mae cymal 4 yn y Bil yn diffinio ystyr cynllun Pennod 1 y cyfeirir ato drwy holl ddarpariaethau perthnasol y Bil. Er eglurder, mae cynllun gwaddol Pennod 1 yn cynnwys:

  • Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) (a elwir hefyd yn Gynllun 1992);
  • Cynllun Pensiwn Newydd Diffoddwyr Tân (Cymru) (a elwir hefyd yn Gynllun 2007).

Mae Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (Cynllun 2015) yn gynllun newydd Pennod 1.

Cymal 20 (Pwerau pellach i wneud darpariaeth ynglŷn ag achosion arbennig)

Byddai Cymal 20 fel y’i cyflwynwyd yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â chynllun Pennod 1 sy'n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â nifer o feysydd lle y bydd angen i gynlluniau gymryd camau o bosibl er mwyn sicrhau bod cynlluniau yn gweithredu yn ôl y bwriad, a hynny er mwyn sicrhau bod aelodau yn cael y buddion cywir o dan gynllun gwaddol neu gynllun newydd y byddent wedi bod â hawl i'w cael mewn perthynas â'u gwasanaeth adferadwy.

Ychwanegwyd is-gymalau newydd at Gymal 20 i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru sicrhau y gellir gwneud darpariaeth briodol mewn perthynas â buddion anafiadau ac iawndal sy'n daladwy o dan gynllun anafiadau ac iawndal perthnasol i aelod sydd â gwasanaeth adferadwy, neu mewn perthynas ag ef.  Yn benodol, bydd yn galluogi gwneud newidiadau priodol i Gynllun Iawndal Diffoddwyr Tân Cymru 2007.  Nid cynllun pensiwn yw hwn – mae'n rhoi iawndal i ddiffoddwyr tân sy'n cael eu hanafu neu eu lladd ar ddyletswydd – ond mae'r hawl i gael iawndal oddi tano yn cael ei yrru'n rhannol gan hawliau pensiwn. 

Mewnosod cymal newydd ar ôl Cymal 22 (trefniadau adferol i dalu cyfraniadau gwirfoddol i gynlluniau gwaddol).

Byddai'r cymal newydd hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â chynllun gwaddol Pennod 1 i wneud darpariaeth sy'n caniatáu i aelodau sydd â gwasanaeth adferadwy ymrwymo i drefniadau newydd i dalu cyfraniadau gwirfoddol i'w cynlluniau gwaddol ar ôl iddynt drosglwyddo i Gynllun 2015.  Y rheswm am hyn yw pe bai'r aelodau hynny wedi aros yn briodol yn eu cynlluniau gwaddol yn 2015, mae’n bosibl y byddent wedi dewis gwneud cyfraniadau o'r fath.

Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn

Mae'r Bil yn ceisio unioni’r gwahaniaethu ar draws cynlluniau'r sector cyhoeddus drwy roi pob aelod cymwys yn ôl yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe na bai'r gwahaniaethu erioed wedi digwydd.  Mae'r cymalau newydd yn rhoi mwy o eglurder a manylion i sicrhau bod y cynlluniau pensiwn yn gweithredu yn ôl y bwriad a bod yr aelodau'n cael yr hawliau pensiwn y byddent wedi bod â hawl iddynt, pe na bai'r gwahaniaethu wedi digwydd.

Rwyf o'r farn ei bod yn briodol i'r darpariaethau diwygiedig hyn fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru a'i bod yn briodol iddynt gael eu cynnwys yn y Bil hwn.