Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Byddaf yfory yn cyhoeddi yr ymgynghoriad ar y Bil Rheoli Cŵn (Cymru) drafft (“y Bil”) i’n rhanddeiliaid a phobl Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu perchenogaeth gyfrifol ar bob anifail a sicrhau bod anghenion yr anifeiliaid hynny’n cael eu bodloni. Mae’r Map Ffordd ar Les Cŵn, yn adlewyrchu egwyddorion o Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid, yn nodi nifer o gerrig milltir, yn gyfarwyddyd, cyngor, deddfwriaeth a threfn orfodi,  ar y ffordd i wella lles cŵn.  Fel rhan o’r pecyn o fesurau rheoli i annog perchenogion i fod yn gyfrifol, cyhoeddais ar 8 Chwefror 2012 y byddai Llywodraeth Cymru’n cyflwyno deddfwriaeth ar gŵn sydd allan o reolaeth.  

Mae’r Bil yn amlinellu nifer o gynigion ar gyfer delio â chŵn sydd allan o reolaeth, yn gynnar os oes modd, cynnig trefn orfodi newydd ac annog pobl ledled Cymru i fod yn berchenogion cŵn mwy cyfrifol.

Er bod y mwyafrif o gŵn yn cael eu cadw o dan reolaeth heb fod yn risg i’r cyhoedd, mae cynnydd wedi bod mewn ymosodiadau gan gŵn, gyda phlant ac anifeiliaid arall, gan gynnwys cŵn cymorth, yn aml yn dioddef. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud mwy i amddiffyn plant, teuluoedd a’n cymunedau yng Nghymru rhag cŵn sydd allan o reolaeth, a chyhoeddi’r Bil drafft hwn yw’r cam cyntaf tuag at yr amcan hwnnw.  

Felly rwy’n gwahodd unrhyw sydd am ymateb i’r cynigion hyn i wneud hynny o fewn yr amserlen a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori.