John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Ym mis Ionawr eleni, rhoddais wybod i Aelodau’r Cynulliad am ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, Dyfodol ein gorffennol. Ers hynny, rydym wedi bod wrthi’n mireinio’r cynigion hynny gan nodi’r dulliau mwyaf priodol o’u rhoi ar waith, ac mae bellach yn amser priodol i roi’r diweddaraf ichi am hynt y gwaith hwn. Mewn rhai achosion, bydd y cynigion yn golygu bod angen newid y ddeddfwriaeth drwy’r Bil Treftadaeth.
Roedd rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad wedi mynegi eu rhwystredigaeth oherwydd bod cyn lleied o bobl yn cael eu herlyn yn llwyddiannus ar ôl gwneud difrod anghyfreithlon i henebion rhestredig yng Nghymru. O ganlyniad, yn ystod y gwanwyn eleni cynhaliwyd ymgynghoriad ychwanegol a barodd am chwe wythnos. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw’n gwahodd sylwadau am gynnig i ddiwygio Deddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979. Byddai’r cynnig yn ei gwneud yn anoddach i rywun, a gyhuddir o wneud difrod o’r fath, amddiffyn ei hunan drwy honni nad oedd yn ymwybodol o statws neu leoliad heneb.
Caeodd yr ymgynghoriad hwnnw ar 14 Ebrill, a daeth 60 o ymatebion i law. Roedd cefnogaeth gref o blaid y cynnig, a oedd ar y cyfan yn cael ei weld fel rhywbeth a fyddai’n sicrhau modd cymesur o atal difrod, gan helpu i ddiogelu henebion rhestredig yng Nghymru. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r adroddiad cysylltiedig ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r ymatebion i’r ddau ymgynghoriad wedi dylanwadu ar y cynigion sy’n gysylltiedig â’r Bil Treftadaeth. Bydd y cynigion hyn yn:
- ei gwneud yn bosibl inni ddiogelu adeiladau a henebion rhestredig yn fwy effeithiol;
- sicrhau ein bod yn gallu gwella’r mecanweithiau ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy; a
- sicrhau bod mwy o dryloywder ac atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau am yr amgylchedd hanesyddol.
Nod y Bil yw diogelu’r holl amrywiaeth o safleoedd archaeolegol sydd o bwys cenedlaethol yng Nghymru, gan greu mesurau newydd a fydd yn caniatáu i Cadw gymryd camau prydlon ac effeithiol i atal difrod i henebion rhestredig. Nod cynigion eraill yw ei gwneud yn haws cymryd camau yn erbyn y rheini sydd wedi difrodi neu ddinistrio henebion.
Hefyd bydd y Bil yn galluogi awdurdodau i weithredu’n gyflym pe bai adeilad rhestredig dan fygythiad oherwydd gwaith nad yw wedi ei awdurdodi, a rhoi iddynt fwy o hyblygrwydd wrth ymdrin ag adeiladau hanesyddol sy’n dirywio oherwydd esgeulustod.
Byddai perchnogion neu ddatblygwyr sy’n ystyried gwneud defnydd newydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol nad ydynt yn rhestredig yn elwa ar gynigion y Bil ar gyfer llacio’r amodau sydd ynghlwm wrth geisiadau am dystysgrifau imiwnedd rhag rhestru.
Er mwyn creu cynlluniau integredig ar gyfer rheoli’r asedau dros gyfnod o flynyddoedd, byddai’r cynnig i sefydlu cytundebau partneriaethau treftadaeth yng Nghymru yn caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol gytuno i drefniadau gwirfoddol gyda’r awdurdodau sy’n rhoi caniatadau. Byddai hynny’n rhyddhau’r perchnogion a’r awdurdodau rhag y baich o orfod ymdrin â’r un math o geisiadau dro ar ôl tro mewn perthynas â gwaith tebyg. Ar yr un pryd, byddai’n hyrwyddo’r defnydd o ddulliau gweithredu mwy cyson a chydlynus ar gyfer rheoli’r adeiladau neu’r henebion.
Byddai’r cynnig i greu sylfaen gadarn ar gyfer cofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru, sy’n darparu gwybodaeth fanwl a chyngor i awdurdodau cynllunio lleol, yn sicrhau y byddai’r amgylchedd hanesyddol cyfan yn cael ei reoli mewn modd mwy cynaliadwy.
Byddai’r strwythurau presennol ar gyfer dynodi asedau hanesyddol sydd o bwys cenedlaethol yn fwy agored a thryloyw pe byddem yn cyflwyno proses o ymgynghori’n ffurfiol â pherchnogion a chreu mecanweithiau ar gyfer adolygu penderfyniadau.
Yn olaf, bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer creu panel annibynnol i roi cyngor ar bolisïau a strategaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 10 Ebrill, cyhoeddais fy mod yn awyddus i sefydlu’r panel ar sail statudol drwy’n Bil Treftadaeth, ac mae fy swyddogion wedi cynnal gweithdy yn ddiweddar, gyda’r prif randdeiliaid, er mwyn helpu i ddatblygu’r cynigion deddfwriaethol.
Bydd y Bil Treftadaeth yn cael ei ategu gan gyngor, canllawiau a pholisïau anneddfwriaethol, a fydd yn creu corff integredig o fesurau. Bydd hynny’n cynnwys diweddaru’r polisïau a chyngor cynllunio cyfredol sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda’r Gweinidog Tai ac Adfywio i sicrhau bod y bennod ar yr amgylchedd hanesyddol yn ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn cael ei hadolygu, ac y bydd nodyn cyngor technegol newydd (TAN) ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei gynhyrchu i sicrhau bod y canllawiau yn gyfredol ac yn gynhwysfawr. Bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2015. Drwy gydweithredu fel hyn, gallwn sicrhau bod y Biliau Treftadaeth a Chynllunio, ynghyd â’r polisïau a’r cyngor ategol, yn ymgorffori egwyddorion cyffredin, ac yn hybu ac yn cefnogi gwaith datblygu gan sicrhau ei bod yn bosibl cymryd y camau y mae eu hangen i ddiogelu ein hamgylchedd hanesyddol.
Bydd Cadw yn datblygu canllawiau ategol pellach i annog pobl i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cadarnhaol. Bydd y pynciau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys asedau hanesyddol sydd o bwys lleol, Safleoedd Treftadaeth y Byd a sicrhau bod adeiladau rhestredig yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.
Mae’r cynigion ar gyfer y Bil Treftadaeth, ynghyd â’r canllawiau, y cyngor a’r polisïau cysylltiedig, yn ein helpu i gyflawni’r amcanion sydd gennym yn gyffredin, fel y’u nodir yn ein Bil arfaethedig, Cenedlaethau’r Dyfodol (teitl dros dro). Hefyd maent yn ategu’r cynigion sy’n cael eu datblygu o dan y rhaglen ddeddfwriaethol ehangach, gan gynnwys y biliau Cynllunio ac Amgylchedd.
Drwy ei Bil Treftadaeth a’r mesurau cysylltiedig, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau y mae eu hangen i ddiogelu amgylchedd hanesyddol cyfoethog Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac i hyrwyddo dulliau cynaliadwy o reoli’r amgylchedd hwnnw fel y bydd yn parhau i ddod â llu o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.