Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gwneir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30: “Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU”. Mae’n ymwneud â darpariaeth yn y Bil Ynni (y Bil) a wnaed drwy welliant, sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar ei gyfer o dan Reol Sefydlog 29.

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai amcanion polisi'r Bil hwn yw: cyflawni’r ymrwymiad maniffesto i barhau i gefnogi datblygiad olew a nwy ym Môr y Gogledd; newid y gyfraith fel bod awdurdodau lleol yn penderfynu ar geisiadau ynni gwynt ar y tir yn Lloegr; a diddymu unrhyw gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer ynni gwynt ar y tir, yn enwedig mewn perthynas â’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy.

Cyflwynwyd y Bil i Dŷ’r Arglwyddi ar 9 Gorffennaf 2015.  Mae’r Bil yn gwneud amryw ddarpariaethau, gan gynnwys sefydlu’r Awdurdod Olew a Nwy yn rheoleiddiwr annibynnol.

Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth a osododd y gwelliant perthnasol; gwelliant rhif 10 ydyw yn y rhestr o welliannau wedi’u gosod mewn trefn. Mae’r rhestr honno i’w gweld ar wefan y Senedd yn y ddolen  isod:
Lords Amendments: Energy Bill [HL]

Byddai’r gwelliant perthnasol, i Gymal 3, yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru gan alluogi’r Awdurdod Olew a Nwy a Gweinidogion Cymru i ddod i gytundeb a fyddai’n galluogi’r Awdurdod Olew a Nwy i weithredu ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae’r Bil yn gwneud darpariaethau hefyd i’r Awdurdod Olew a Nwy ddatgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru i’r diben o’i gwneud yn haws i Weinidogion Cymru ymarfer eu swyddogaethau.

Mae’r Bil Cymru drafft, a gyhoeddwyd ar 20 Hydref, yn cynnwys darpariaethau i ddatganoli’r pwerau dros drwyddedu olew a nwy cysylltiedig â Chymru i Weinidogion Cymru. Mae’r gwelliant yn sicrhau bod modd i’r Awdurdod Olew a Nwy ymarfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru os bydd hynny’n ofynnol. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu trefniant â’r Awdurdod Olew a Nwy  ar ôl i’r swyddogaethau gael eu trosglwyddo, er mwyn helpu i sicrhau parhad y ddarpariaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod Olew a Nwy’n ymarfer swyddogaethau ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol  dros Ynni a Newid Hinsawdd ac yn rheoleiddio gweithrediadau olew a nwy ar y tir ac ar y môr yn y Deyrnas Unedig. Bydd y Bil Ynni’n sefydlu’r Awdurdod Olew a Nwy’n ffurfiol fel rheoleiddiwr annibynnol ar ffurf cwmni llywodraeth. Bydd y Bil Ynni’n trosglwyddo pwerau a swyddogaethau rheoleiddio i’r Awdurdod Olew a Nwy  ac yn rhoi pwerau newydd iddo.

Ystyrir ei bod yn briodol i’r darpariaethau hyn gael eu gwneud drwy’r Bil Ynni, oherwydd nid oedd yn bosibl gwneud y ddarpariaeth drwy Ddeddf y Cynulliad.

Gosodir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn cydymffurfio â Rheol Sefydlog 30 sy’n ei gwneud yn ofynnol gosod datganiad ysgrifenedig o fewn dwy wythnos fan bellaf ar ôl i welliant perthnasol gael ei osod yn Senedd y DU. Serch hynny, os bydd Aelodau’r Cynulliad yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad wedi dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.