Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Rhagfyr 2012, cyhoeddodd Estyn ei adroddiad am yr ailarolygiad a gynhaliodd ar Wasanaethau Addysg Sir Benfro. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar yr arolygiad arbennig a gynhaliwyd ganddo ar weithredu trefniadau diogelu yng Nghyngor Sir Penfro (yr Awdurdod). Bryd hynny, gwnaethom ymrwymiad i hysbysu Aelodau’r Cynulliad am y camau y byddem yn eu cymryd ar ôl i ni ystyried y ddau adroddiad. Rydym hefyd wedi cael cyngor gan Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro ac wedi ystyried cynllun gweithredu drafft Sir Benfro, a luniwyd mewn ymateb i arolygiad Estyn.

Daeth Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro i'r casgliad bod arwyddion o gynnydd yn dechrau dod i'r amlwg o ran trefniadau diogelu ym maes addysg. Fodd bynnag, roedd llawer iawn eto i'w wneud. Gwnaed newidiadau sylweddol ar lefel uwch yn yr Awdurdod, a hynny ar lefel swyddogion ac o fewn y Weithrediaeth.  

Mae'r newidiadau ar y lefel uwch yn gamau cadarnhaol ac mae Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro o'r farn bod plant Sir Benfro yn fwy diogel heddiw nag yn y gorffennol. Er hynny, ni fydd y gwendidau systemig yn niwylliant ac arferion gwaith yr Awdurdod yn newid dros nos, ac ni fydd penodiadau newydd yn ddigon i fynd i'r afael â hwy ychwaith. Yn wir, mae perygl bod newid personél yn y fath fodd wedi cael ei ystyried yn ddigon ynddo'i hun, gan ddisodli'r angen i ddiwygio dros y tymor hwy.

Mae'r problemau yn yr Awdurdod, fel y'u hamlinellir yn y ddau adroddiad, yn ehangach o lawer na'r materion diogelu y penodwyd Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro i fynd i'r afael â hwy. Canfu Estyn fod y rheolaeth a'r arweinyddiaeth mewn addysg yn anfoddhaol, nad aed ati'n ddigon cyflym i roi newid ar waith, ac na wnaed digon i sicrhau bod gwelliannau o ran diogelu yn dod yn rhan annatod o waith yr Awdurdod ac yn cael eu cynnal wedyn.  At hynny, roedd yr Archwilydd Cyffredinol o'r farn bod trefniadau craffu ac atebolrwydd yn wan yn y Cyngor ac nad oedd yr aelodau'n herio penderfyniadau yn ddigonol nac yn cynnig arweinyddiaeth.

Rydym yn derbyn y bu rhai gwelliannau o ran trefniadau diogelu, a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn hyn o beth ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ymddengys fod yr Awdurdod bellach yn cydnabod bod yn rhaid iddo gyflwyno newidiadau, ac rydym yn obeithiol y byddwn, o'r diwedd, yn dechrau gweld newid llwyr yn y diwylliant a arweiniodd at y methiannau a ddisgrifiwyd yn amryfal adroddiadau'r arolygiaethau yn ystod y deunaw mis diwethaf. Mae hi dal yn ddyddiau cynnar iawn, fodd bynnag, ac nid ydym o'r farn bod y newidiadau diweddar yn ddigon i fynd i'r afael â'r problemau lu sy'n wynebu'r Awdurdod, ac nid ydym yn ffyddiog ychwaith y bydd yr Awdurdod ei hun yn cymryd digon o gamau pellach. O'r herwydd, rydym wedi penderfynu ymateb mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws ein hadrannau er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon sy'n parhau.

Rydym wedi ymgynghori â'r Awdurdod a rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â chynnig rhagor o gefnogaeth, a fydd yn parhau, i ystyried newidiadau manteisiol sydd wedi'u gwneud eisoes i'r swyddogaeth graffu a, lle bo'n briodol, i sicrhau bod y newidiadau hynny yn dod yn rhan annatod o waith yr Awdurdod ac yn cael eu cynnal wedyn. Rydym hefyd wedi ymgynghori â'r Awdurdod ynghylch adolygu ei gyfansoddiad er mwyn sicrhau bod ei brosesau gwneud penderfyniadau yn llwyr gefnogol i’r gwelliannau i’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cyflenwi.  

Rydym hefyd wedi ystyried amryfal opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r methiannau o ran safonau addysgol, gan sicrhau ar yr un pryd bod yr Awdurdod yn mynd ati i wneud yn siŵr bod y gwelliannau a wnaed o ran diogelu yn dod y rhan annatod o'i waith. Byddwn yn cefnogi'r Awdurdod i feithrin capasiti drwy ganiatáu iddo barhau i arfer swyddogaethau addysg o dan arweiniad a goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynnig, gan hynny, sefydlu Bwrdd Adfer i gefnogi'r Awdurdod a'i herio wrth iddo fynd i'r afael ag argymhellion Estyn. Bydd yn gweithredu'n uniongyrchol ar ran Llywodraeth Cymru, ac yn adrodd i un o swyddogion Llywodraeth Cymru.  Bydd uwch-reolwyr yr Awdurdod ac aelodau etholedig yn dod i'r cyfarfodydd er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bwrdd ac i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Roedd gan Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro gylch gorchwyl penodol iawn, sef canolbwyntio ar drefniadau diogelu ym maes addysg. Ar y llaw arall, bydd gan y Bwrdd Adfer gwmpas gwaith ehangach o lawer. Bydd yn edrych ar wasanaeth addysg y Sir yn ei gyfanrwydd ac ar yr adolygiad ehangach o'r Cyfansoddiad a'r swyddogaeth graffu, gan sicrhau hefyd fod yr Awdurdod yn parhau i wneud cynnydd o ran ei drefniadau diogelu.

Bydd yr Awdurdod o dan gyfarwyddyd i gydweithredu'n llawn â'r Bwrdd Adfer. Mae'r Awdurdod wedi cael cyfarwyddyd drafft i ystyried a darparu adborth. Wedi i'r broses briodol hon gael ei dilyn, caiff y Cyfarwyddyd ei osod yn ffurfiol. Bydd disgwyl i'r Awdurdod gydymffurfio’n llawn ag unrhyw gyngor y bydd y Bwrdd yn ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn bodloni ei ddyletswyddau statudol o ran cyflawni ei swyddogaethau addysgol, gan gynnwys diogelu a gwella atebolrwydd democrataidd. Bydd yr Awdurdod dan gyfarwyddyd i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir gan gadeirydd y Bwrdd ac a fydd, ym marn y cadeirydd, yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn ymgymryd mewn modd digonol â'i swyddogaethau addysg.

Rydym yn bendant o'r farn bod yn rhaid i'r Awdurdod gadw'r cyfrifoldeb terfynol am y newidiadau angenrheidiol a datblygu ei allu ei hun.  Bydd y Bwrdd yn cefnogi'r datblygiad hwn, serch hynny bydd yn herio hefyd os na wneir digon o gynnydd, a bydd modd ymyrryd yn ffurfiol os bydd angen. Caiff cyhoeddiad ei wneud ynglŷn ag aelodaeth y Bwrdd Adfer pan fydd y trefniadau terfynol wedi'u pennu.  

Mae Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro wedi hyrwyddo newidiadau sylweddol yn Sir Benfro, gan weithio o dan amgylchiadau heriol iawn yn aml.  Mae wedi codi proffil materion diogelu ar draws yr Awdurdod, wedi gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion ac wedi sefydlu gweithgor penaethiaid. At hynny, mae wedi cysylltu ag aelodau etholedig a'u hannog i fynd ati mewn ffordd fwy trwyadl i ddal swyddogion i gyfrif. Ar yr un pryd, wrth ddod ar draws arferion gwael, mae wedi dwyn sylw agored atynt er mwyn sicrhau nad ydynt yn digwydd eto ac er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy.  

Rydym yn hynod ddiolchgar i aelodau Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Mae ein gwerthfawrogiad yn ddiffuant o’r gwaith y mae aelodau Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro wedi’i wneud gyda’r Awdurdod.

Rydym am gadarnhau unwaith yn rhagor ein bod yn ymrwymedig i feithrin capasiti yma yng Nghymru drwy dargedu buddsoddiad a thrwy sefydlu trefniadau craffu cadarn er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn ddiogel, a'i fod yn cael addysg o'r radd flaenaf. Ar yr un pryd, rydym am roi sicrwydd i'r Aelodau na fydd tanberfformio yn cael ei ganiatáu. Mae'r llwybr yr ydym wedi dewis ei ddilyn gyda'r Awdurdod yn ategu'r ymrwymiad hwnnw.