Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ym mis Medi 2023 yn dilyn penodi'r Bwrdd a Simon Pirotte yn Brif Weithredwr.

Ym mis Ebrill 2024, bydd y Comisiwn yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu ei gynllun strategol cyntaf ac yn cychwyn paratoi ar gyfer cyflwyno system reoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol. Bydd y Comisiwn hefyd yn symud i’w bencadlys newydd yn Capital Quarter; dechrau’r broses recriwtio; a chymryd cyfrifoldeb dros ei systemau gweithredu ac ariannol. Bydd Aelodau Cyswllt, sy’n cynrychioli undebau llafur a chyrff cynrychioli dysgwyr, hefyd yn cael eu gwahodd i ymuno â Bwrdd y Comisiwn ym mis Ebrill 2024, yn dilyn proses enwebu ymgeiswyr a phenodiadau Gweinidogol.

Nod y gwaith paratoi hanfodol hwn yw gwneud yn siŵr bod y broses bontio yn esmwyth erbyn i’r Comisiwn ddechrau gweithredu, gan sicrhau nad oes unrhyw beth amlwg a allai amharu ar ddysgwyr neu ddarparwyr. Bydd y gwaith hwn yn parhau ochr yn ochr â dull graddol o weithredu deddfwriaethol, a’r dyddiad ar gyfer trosglwyddo pwerau i’r Comisiwn, bellach, yw 1 Awst 2024. Bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn parhau i gyflawni ei swyddogaethau rheoleiddio a chyllido yn llawn nes y caiff ei ddiddymu bryd hynny. 

Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r Comisiwn yn ystod y misoedd i ddod er mwyn helpu i sicrhau proses drosglwyddo esmwyth i ddysgwyr, darparwyr a staff wrth inni gyflawni ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.