Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch iawn o gadarnhau penodi saith Aelod Bwrdd ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) yn dilyn ymarfer penodi cyhoeddus agored. Cynhaliwyd y broses benodi yn unol â Chod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus yw Gwenllian Davies, James Davies, Cerys Furlong Stephen Marston, Chris Millward, Rob Humphreys, a Jayne Woods. Bydd y penodiadau’n rhedeg am gyfnod o dair blynedd gyda phum Aelod o’r Bwrdd yn dechrau eu penodiad ar 4 Medi 2023. Mae Rob Humphreys a James Davies yn aelodau o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar hyn o bryd felly byddant yn dechrau cyfnod eu penodiad ar 1 Ebrill 2024 pan ddiddymir y Cyngor.  

A hwythau wedi'u tynnu o ystod eang o gefndiroedd, gan weithredu mewn swyddogaethau gweithredol ac anweithredol, mae Aelodau’r Bwrdd yn dod â chronfa gyfoethog o wybodaeth a phrofiad helaeth i’r Comisiwn. Gyda’i gilydd byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r Cadeirydd, yr Athro y Fonesig Julie Lydon, a'r Dirprwy Gadeirydd, David Sweeney i bennu cyfeiriad strategol a sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol ar waith i gyflawni holl amrywiaeth cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol y Comisiwn.

Roedd hwn yn ymarfer penodi hynod gystadleuol a ddenodd dros gant o geisiadau.  Er fy mod wrth fy modd gyda safon penodiadau ymgeiswyr, rwy’n dymuno sicrhau bod y Comisiwn yn gallu elwa ar safbwyntiau o’n holl gymunedau yng Nghymru gan gynnwys cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Felly, rwyf wedi penderfynu hysbysebu drachefn ar gyfer penodi aelodau ychwanegol i’r Bwrdd yn ddiweddarach eleni ac, i sicrhau bod y Comisiwn yn gynrychiadol a chynhwysol o ran y sector yng Nghymru, bydd camau gweithredu wedi’u targedu yn cael eu cymryd, gan gynnwys:

  • cydweithio â Black Leadership Group, llais gwrth-hiliaeth yn y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn y Deyrnas Unedig, ar y broses benodi, gan dynnu rhwystrau tebygol i geisiadau gan unigolion o gefndir ethnig lleiafrifol;
  • cydweithio â’n rhwydweithiau staff ac arweinwyr cydraddoldebau ar y broses benodi i’w gwneud mor eglur â phosibl mai’n ffocws yw gwella amrywiaeth y Bwrdd, wrth sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â Chod y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus; a
  • bod yn rhagweithiol wrth annog ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndir ethnig lleiafrifol fel rhan o’r broses benodi

Rwy'n  ddiolchgar iawn i'r holl ymgeiswyr am eu brwdfrydedd a'u diddordeb drwy gydol y broses hon ac edrychaf ymlaen at weld Aelodau’r Bwrdd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i ddarparu sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru sy’n rhagorol, yn decach ac sy’n ymgysylltu’n well.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.