Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei sefydlu gennym ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. Fe'i sefydlwyd i ystyried a datblygu'r opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau i fod yn rhan annatod ohoni, yn sylfaenol. Rhoddwyd i'r Comisiwn y dasg hefyd o ystyried a datblygu pob opsiwn blaengar posibl ar gyfer cryfhau democratiaeth yng Nghymru a chyflawni gwelliannau ar ran pobl Cymru. 

Mae'r Comisiwn, sy'n cael ei gadeirio ar y cyd gan yr Athro Laura McAllister a'r Dr Rowan Williams, yn un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu yn ogystal â'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. 

Heddiw, mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol. Mae ar gael i'w weld yma: Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol

Mae hon yn foment bwysig yn nhaith gyfansoddiadol Cymru. Hoffwn ddiolch i'r cyd-gadeiryddion ac aelodau'r Comisiwn am eu holl waith, sydd wedi arwain at lunio'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cefnogi gwaith y Comisiwn a chymryd rhan, gan gynnwys aelodau'r panel arbenigol, a'r bobl a'r sefydliadau niferus a gymerodd ran yn y gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae adroddiad terfynol y Comisiwn yn teilyngu ystyriaeth fanwl a gofalus. Byddaf yn gwneud datganiad llafar i'r Senedd ar 30 Ionawr ac, wedi inni gael amser i ystyried ein hymateb, byddwn yn cyflwyno dadl gan y llywodraeth yn y Senedd.