Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â fy natganiad llafar prynhawn yma, rwyf yn rhannu amcanion eang y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru isod.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae gan y Comisiwn ddau amcan eang:

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni;
  1. Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Arferion Gweithio

Bydd y Comisiwn yn cael ei gydgadeirio gan yr Athro Laura McAllister a’r Dr Rowan Williams. Gan gynnwys y cydgadeiryddion, bydd gan y Comisiwn 11 o aelodau a fydd yn cwmpasu ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol a rhannau o gymdeithas Cymru. Bydd Ysgrifenyddiaeth a Phanel Arbenigol yn cefnogi gwaith y Comisiwn.

Wrth gyflawni ei waith, dylai’r Comisiwn ddatblygu rhaglen ymgysylltu cynhwysol gyda chymdeithas sifil a’r cyhoedd yng Nghymru er mwyn ysgogi sgwrs genedlaethol; a chomisiynu gwaith ymchwil, dadansoddi a barn arbenigol drwy Banel Arbenigol a sefydlir at y diben hwnnw.

Amserlen

Dylai’r Comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd 2022.

Dylai lunio adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023.