Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys cyfres o ddiwygiadau ac adolygiadau er mwyn cryfhau’r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon, effeithiol a hygyrch. Fel rhan o hyn, rwy’n sefydlu Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Syr Paul Williams wedi cytuno i gadeirio’r Comisiwn hwn. Mae Nick Bennett, Nick Bourne, Nerys Evans Juliet Luporini, Garry Owen, a’r Cynghorydd Alun Thomas wedi cytuno i wasanaethu fel aelodau o’r Comisiwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i werthoedd tegwch a chydraddoldeb. Nid yw tlodi ac anghydraddoldeb yn dderbyniol inni. Nid yw erydu’r gwasanaethau cyhoeddus yn dderbyniol inni ychwaith, oherwydd credwn fod angen iddynt fod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer yr oes. Mae amddiffyn a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yn hollbwysig oherwydd gwyddom fod ein hunigolion a’n cymunedau mwyaf agored i niwed yn ddibynnol iawn ar y gwasanaethau hyn, sy’n effeithio mor uniongyrchol ar ansawdd eu bywydau o ddydd i ddydd. Ni allai’r gwasanaethau hyn fodoli heb weithlu ymroddedig y gwasanaeth cyhoeddus, ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi’r rheini sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus.  

Nid ydym yn credu mai’r farchnad yw’r ateb i’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaethau cyhoeddus hyn. Gall anghenion unigolion, teuluoedd a chymunedau fod yn gymhleth. Yn aml mae amrywiaeth o sefydliadau – gan gynnwys gwasanaethau sydd heb eu datganoli -  yn ymateb i’w gofynion, er nad ydynt yn gorwedd yn daclus o fewn ffiniau sefydliadol. Bydd cyllidebau’r sector cyhoeddus yn parhau i grebachu a’r pwysau arnynt yn cynyddu, yn ôl pob golwg. Mae’n amlwg felly fod angen ystyried yn ofalus sut y gellir cynnal gwasanaethau a chodi safonau perfformio, fel y gall pobl Cymru barhau i dderbyn y gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr y mae arnyn nhw eu hangen, a dylanwadu arnynt.  Ac fel y gallwn weld o effaith penderfyniadau ariannol presennol Llywodraeth y DU, mae sector cyhoeddus iach yn hanfodol er mwyn sicrhau economi iach.  

Mae sefydlu’r Comisiwn hwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi cyfle i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau, y rheini sy’n atebol amdanynt o safbwynt gwleidyddol a’r rheini sy’n eu defnyddio, archwilio sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu llywodraethu: hynny yw, sut y cânt eu dal i gyfrif am eu perfformiad a’u darparu yn y ffordd fwyaf effeithiol i’r cyhoedd.  
 
Byddaf yn cyflwyno datganiad pellach i’r Cynulliad maes o law ar gylch gwaith y Comisiwn.