Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol. Mae’n cynghori adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ar faterion imiwneiddio, gan wneud argymhellion ynghylch amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.

Ers fy natganiad diwethaf ar bwy sy'n gymwys, mae'r JCVI heddiw wedi cyhoeddi datganiad gyda'i gyngor ar ba frechlynnau y dylid eu defnyddio ar gyfer rhaglen brechiadau atgyfnerthu Covid-19 yr hydref. Prif nod y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19, fel arfer, yw hybu imiwnedd y rhai hynny sydd mewn mwy o berygl yn sgil Covid-19 a sicrhau bod gwell amddiffyniad gan bobl rhag bod yn ddifrifol sâl, o gael eu derbyn i’r ysbyty neu o farw.

Ar gyfer hydref 2023, mae’r JCVI yn argymell:

  • dylid defnyddio'r brechlyn deufalent Omicron BA4-5 mRNA ynghyd â’r brechlyn unfalent XBB cymeradwy, yn amodol ar drwyddedu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
  • dylai’r brechlynnau ar gyfer yr amrywiolion Covid-19 diweddaraf gael eu blaenoriaethu i’w defnyddio mewn unigolion a chanddynt risg glinigol unigol uwch o ddatblygu symptomau COVID-19 difrifol

Bydd unigolion cymwys yn cael y brechlyn mwyaf priodol gan ddibynnu ar eu hoed a'u risg glinigol.

Mae'r JCVI hefyd yn argymell:

  • dylid cynnig brechlynnau o leiaf 3 mis ar ôl y dos brechlyn blaenorol, ond gellid hefyd cymhwyso arferion gweithredol hyblyg
  • pan fydd posibilrwydd o oedi sylweddol wrth roi'r brechlyn Covid-19 diweddaraf i gael ei gymeradwyo gan y DU erbyn mis Rhagfyr, dylai'r egwyddor o amseroldeb gael blaenoriaeth dros y dewis o frechlyn
  • pan fydd gwneud hynny’n hwylus yn weithredol, gellid rhoi’r brechlyn Covid-19 a’r brechlyn ffliw ar yr un pryd

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf. Felly, ynghyd â'm cyd-Weinidogion Iechyd eraill yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn.

Yn unol â'r egwyddor y dylai amseroldeb gael blaenoriaeth dros y dewis o frechlyn, ac yn wyneb ymddangosiad diweddar amrywiolyn newydd sy’n peri pryder (BA.2.86), bydd y gwaith o gyflwyno rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn dechrau ar 11 Medi yng Nghymru ac yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelu’r grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf. Bydd y rhaglen yn dechrau drwy frechu preswylwyr cartrefi gofal gan ddefnyddio’r stoc bresennol o frechlynnau. Mae gwaith cynllunio ar y gweill ers amser gan sefydliadau'r GIG yng Nghymru er mwyn paratoi ar gyfer rhaglen yr hydref a bydd apwyntiadau’n cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf.

Bydd ein dull gweithredu ar gyfer rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn sicrhau bod pobl sy'n gymwys hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag y ffliw tymhorol. Mae'r JCVI wedi cynghori y dylid rhoi dosau atgyfnerthu yn amserol i bobl er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad a diweddaru’r amddiffyniad hwnnw dros gyfnod y gaeaf ac rydym yn annog unigolion i ddod i gael y ddau frechlyn pan fyddant yn cael eu cynnig. Dyma'r ffordd orau o amddiffyn eich hunain a'ch teuluoedd a diogelu Cymru y gaeaf hwn.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Gwasanaeth Iechyd a phawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe bai’r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.