Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol,
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru. Cynllun traws-sector yw hwn, sy’n dwyn ynghyd, am y tro cyntaf, yr holl bolisïau a rhaglenni sy’n ymwneud â chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o bob rhan o Lywodraeth Cymru.
Rydym am i bob baban a phlentyn ifanc yng Nghymru ffynnu drwy roi cyfleoedd a phrofiadau cyfoethog iddynt. Mae babanod a phlant ifanc yn byw yn y presennol a dylent fwynhau’r holl ryfeddodau a’r hwyl sy’n dod yn sgil hynny. Ac wrth wneud hynny, rydym yn eu helpu i fod yn fwy bodlon yn y dyfodol.
Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd y Prif Weinidog ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at weithredu dull integredig, o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar hawliau, o fynd i’r afael â chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar. Mae ein cynllun yn rhoi plant a’u datblygiad wrth wraidd popeth a wnawn mewn perthynas â chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru.
Mae’n bwysig ei gwneud yn glir nad yw’r cynllun chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yn ymwneud â chreu math newydd o leoliad blynyddoedd cynnar. Mae’n ymwneud â datblygu a darparu dull cyson o feithrin, dysgu a datblygu, drwy ddarparu cyfleoedd addysg a gofal plant o ansawdd uchel, cynhwysol, sy’n seiliedig ar chwarae, ar gyfer pob baban a phlentyn ifanc rhwng 0 a 5 oed.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau i sicrhau bod babanod a phlant ifanc yn cael cymorth i gael plentyndod bodlon a hapus.
Datblygwyd y cynllun yn seiliedig ar dair thema, sef:
- Ansawdd y ddarpariaeth: Rydym yn ceisio darparu profiadau dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel i bob baban a phlentyn ifanc ym mhob lleoliad addysg feithrin, gwaith chwarae a gofal plant y mae’n ei fynychu.
- Mynediad at ddarpariaeth: Dylid darparu cymorth mewn ffordd hyblyg a chynhwysol sy’n ymateb i amgylchiadau unigol. Dylai'r cymorth hwn helpu plant i ddatblygu yn ogystal â galluogi eu rhieni i ddeall yr ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt. Gallai’r cymorth hwnnw helpu rhieni i allu gweithio.
- Cefnogi a datblygu’r gweithlu: Dylai pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio ym maes Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar gael ei werthfawrogi’n gyfartal a chael pecyn dysgu a chymorth.
Mae gan y cynllun chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar gyfraniad pwysig i’w wneud o ran lliniaru effaith anghydraddoldebau, boed yn sgil hiliaeth, tlodi, neu ffactorau cymdeithasol eraill megis diffyg cyfleoedd. Gall pob un o’r rhain gael effaith barhaol ar fywydau pobl.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bartneriaid hynny sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynllun ar y cyd. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn, rydym wedi bod yn glir na allwn gyflawni ein huchelgais ar gyfer Cymru ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i bawb sy’n gweithio yn y sectorau chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar chwarae rhan sylweddol a chymryd camau ar y cyd i sicrhau bod pob baban a phlentyn ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i ffynnu, bod yn hapus ac yn iach.