Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o’r Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed er 2011. Mae hefyd yn pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau y bydd cynifer o bobl ag y bo modd yn gallu elwa ar fod ar-lein.

Mae datblygiadau i ddyfeisiau fel ffonau clyfar a llechi, gwelliannau o ran cyflymder y rhyngrwyd, a gwasanaethau ar-lein hawdd eu defnyddio, wedi gwella’r profiad digidol i ddefnyddwyr. Erbyn hyn, mae 79%  o bobl Cymru yn defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â’r amcangyfrif o 66% yn 2010.  

Mae cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud o ran cyrraedd yr holl dargedau a nodwyd yng Nghynllun Cyflawni 2011. Roedd y cynllun hwnnw’n hoelio sylw ar y bobl hynny sy’n lleiaf tebygol o fod ar-lein: pobl hŷn a phobl anabl, y rheini sy’n byw mewn tai cymdeithasol, a’r di-waith. Yn ôl ffigurau Arolwg Cenedlaethol Cymru, bu gwelliant parhaus o ran defnydd o’r rhyngrwyd ar draws pob un o’r grwpiau blaenoriaeth hyn.

Er hynny, nid yw pawb yn elwa ar y chwyldro digidol. Wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus gael eu cynnig ar-lein, mae’r bobl hynny sy’n parhau i gael eu hallgáu’n ddigidol mewn perygl o gael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ôl yn ein cymdeithas. Mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu defnyddio technolegau digidol er mwyn gwella’u bywydau a helpu i oresgyn unrhyw fanteision sy’n eu hwynebu.  

Dyna pam yr aed ati i adolygu’r Cynllun Cyflawni ac i gynnwys camau gweithredu a thargedau er mwyn sicrhau gostyngiad pellach dros y tair blynedd nesaf yn y niferoedd sy’n cael eu hallgáu’n ddigidol. Er bod y targedau hyn yn rhai ymestynnol, rwyf yn ffyddiog y gellir eu cyflawni. Drwy barhau i weithio â phartneriaid ar draws y trydydd sector, y sector preifat a’r sector cyhoeddus, a thrwy fanteisio i’r eithaf ar yr ysgogiadau sydd yn eu lle, gallwn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ddiweddar.

Drwy fuddsoddi yn Cymunedau 2.0, rydym wedi helpu dros 42,000 o unigolion i feithrin yr hyder a’r sgiliau digidol sylfaenol y mae eu hangen arnynt er mwyn mynd ar-lein ac elwa ar hynny. Mae rhaglen Cymunedau 2.0 a gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yn lleol ym maes cynhwysiant digidol yn cael effaith sylweddol ar fywydau unigolion. Mae cannoedd o sefydliadau a grwpiau cymunedol ar eu hennill hefyd ar ôl iddynt gael cyngor ar gynyddu capasiti ac ar wella cynaliadwyedd drwy ddefnyddio technolegau digidol. Yn ei flwyddyn olaf, bydd cynllun Cymunedau 2.0, drwy ehangu i’r ardaloedd hynny yng Nghymru nad ydynt yn ardaloedd cydgyfeirio (Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg), yn gallu mabwysiadu dull gwirioneddol genedlaethol o fynd i’r afael ag allgáu digidol. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf mewn digwyddiad i lansio’r gweithgareddau ychwanegol hynny, a fydd yn rhoi cymorth a chefnogaeth i filoedd yn rhagor o bobl ledled y wlad.

Bydd cryfhau partneriaethau â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, llyfrgelloedd cyhoeddus a Chanolfannau Byd Gwaith, yn parhau’n gwbl hanfodol er mwyn cyrraedd ein targedau. Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus, yn benodol, rôl hollbwysig i’w chwarae o ran hyrwyddo cynhwysiant digidol, ac o ran cynnig mynediad am ddim i’r rhyngrwyd a helpu unigolion. Maent hefyd yn ganolfannau allweddol o ran pontio’r cenedlaethau yn ein cymunedau. Wrth i wasanaethau llyfrgell ddod o dan bwysau mewn rhai ardaloedd, mae’n bwysig cydnabod pwysigrwydd pob un o’r amryfal wasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd.

O dan strategaeth gyffredinol Cymru Ddigidol, bydd hanes y gwaith a fydd wedi’i wneud yn y maes hwn i’w weld yn adroddiad blynyddol Cymru Ddigidol. Mae’r cynllun yn cydnabod bod gwella’r sgiliau digidol sydd gan gymunedau yn gallu arwain at fwy o gyfleoedd economaidd, at gymdeithas fwy cyfartal, ac at well cydlyniant cymunedol. Erbyn hyn, mae sgiliau digidol yn gwbl angenrheidiol yn y gweithle yn ogystal ag yn ein cymdeithas. Mae’n hanfodol hefyd ein bod, wrth fuddsoddi yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf, yn sicrhau’r manteision gorau posibl i unigolion. Bydd gwaith ar gynhwysiant digidol, a fydd yn cael ei wneud drwy sesiynau o dan arweiniad Cymunedau 2.0, yn digwydd yn yr ardaloedd hynny lle mae gwasanaethau’n cael eu cyflwyno o dan raglen Cyflymu Cymru, a hynny er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch sut y gall pobl wella eu bywydau drwy fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae band eang cyflym iawn yn eu cynnig.

Er y byddwn yn parhau i gynnig arweiniad strategol er mwyn mynd i’r afael ag allgáu digidol, mae’r agenda hon yn un y bydd yn rhaid i bob sector, a’r gymdeithas ehangach, ei dilyn. Rydym wedi dod yn bell iawn o ran helpu rhagor o unigolion i ddefnyddio’r technolegau digidol diweddaraf ac i elwa arnynt. Mae llawer mwy o sefydliadau ar draws pob sector yn deall pwysigrwydd cynhwysiant digidol, gan gydnabod pa mor hanfodol yw’r agenda hon iddyn nhw ac i’w cwsmeriaid. Er hynny, mae ffordd bell eto i fynd, ac mae llawer gormod o unigolion a sefydliadau yn colli’r cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau digidol.  

Nod y Cynllun ar ei newydd wedd yw pwysleisio pwysigrwydd yr agenda hon fel nad yw pobl sy’n cael eu hallgáu’n ddigidol yn cael eu gadael ymhellach ar ôl wrth i’r newid anochel i wasanaethau digidol, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, barhau.

Mae’r Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol ar gael ar y tudalennau cynhwysiant digidol ar wefan Llywodraeth Cymru. Atodir copi hefyd yn Atodiad A i’r datganiad hwn.