Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw rwy'n cyhoeddi trosolwg o’r cymorth sydd ar gael o 2026 ymlaen drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dyma gam nesaf y cymorth sy’n cael ei gynnig i ffermwyr i’w helpu i wneud busnesau eu fferm a'u hamgylchedd lleol yn fwy gwydn, a cham nesaf cymorth Llywodraeth Cymru i gyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o'r cymorth y byddwn yn ei roi gydol 2026 a dechrau 2027. Cafodd ei sgrifennu i helpu ffermwyr i ddeall pa gyfleoedd y dylen nhw gadw golwg amdanyn nhw a allai eu helpu gyda'u cynlluniau at y dyfodol. Byddwn yn cyhoeddi cyfraddau talu ynghyd â chanllawiau technegol, cyn dechrau'r ffenestri ymgeisio.
Mae'r trosolwg hwn yn esbonio hefyd a fyddwn yn darparu cymorth cyfalaf neu refeniw. Mae peth ohono'n cadw’r drefn gyllido presennol y bydd y diwydiant eisoes yn gyfarwydd â hi, megis cymorth cyfalaf ar gyfer offer i hybu cynhyrchiant, adfer ffiniau caeau neu greu coetiroedd. Mae peth o'r cymorth yn newydd sbon. Rydym yn dal i weithio gyda rhanddeiliaid ar fanylion y cynigion hyn, a byddwn yn datblygu gweithredoedd newydd dros y Cyfnod Pontio.
Bydd peth o'r cymorth ar gael yn unig i'r ffermwyr hynny sydd wedi ymuno â Haen Gyffredinol yr SFS, i adeiladu ar sylfeini'r Gweithredoedd Cyffredinol. Mae rhywfaint o gymorth ar gael i ffermwyr eraill ond bydd ffermwyr yr Haen Gyffredinol yn cael blaenoriaeth. Gallai hyn newid gan dibynnu ar faint o fusnesau fferm fydd yn symud i'r SFS, a'r galw ar y gyllideb sydd ar gael.
Rydym yn annog pob ffermwr i ystyried yr opsiynau cymorth hyn i wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael.
